Tudalen 2 o 2
Postiwyd:
Maw 16 Awst 2005 4:45 pm
gan rebel
Gwesty Cymru a Diwrnod i'r Brenin yn dda iawn ond fi'n hoffi Strydoedd Cul Pontcanna oddi ar Rhiniog
Postiwyd:
Maw 16 Awst 2005 8:27 pm
gan Gorwel Roberts
Oni meddwl bod 'Morladron' yn dipyn o return to form, yr orau ers Diwrnod i'r Brenin a'r gwyddon Tich Gwilym yn dychwelyd i gorlan y Cynganeddwyr ond welwn ni byth mo hynny eto.
Postiwyd:
Gwe 19 Awst 2005 6:44 pm
gan 510N
'Hen Wlad Fy Nhadau'? Gas genai'r gân! Ond o leia yn fersiwn Jarman caf fy esgusodi o glywed y geiriau (gwaith gitâr rhagorol gan y diweddar Tich Gwilym btw).
Ar y funud fy hoff ganeuon Jarman yw 'Ambiwlans', 'Merched Caerdydd' a 'Rheswm I Fyw'.
Dwi'n hoff o un arall hefyd ond dwn i ddim beth yw ei henw. Os feder rhywun fy helpu, ma na ferch yn canu yn y gân - dyma yw'r cwbl dwin wybod...
Re: LP gorau Geraint Jarman
Postiwyd:
Maw 23 Tach 2010 10:29 am
gan Cythrel Canu
Albwm cyntaf o stwff newydd gan Geraint Jarman ers
Sub Not Used (1998) cyn bo hir ar Ankst. Watsh ddis sbes
Re: LP gorau Geraint Jarman
Postiwyd:
Maw 23 Tach 2010 5:27 pm
gan Ramirez
Cythrel Canu a ddywedodd:Albwm cyntaf o stwff newydd gan Geraint Jarman ers
Sub Not Used (1998) cyn bo hir ar Ankst. Watsh ddis sbes
Ohohohohohoooooo. Ma hynna jysd yn briliant. Diolch!
Re: LP gorau Geraint Jarman
Postiwyd:
Iau 10 Chw 2011 11:28 am
gan Cythrel Canu
Newydd siarad gyda'r ffotograffydd sy'n tynnu'r lluniau ar gyfer y clawr. Bydd y CD allan yn fuan.