Ma'r Toucan wedi darganfod cartre' newydd o'r diwedd!
Yn dilyn ymgais aflwyddiannus i agor y clwb mewn hen adeilad gyferbyn a'r City Arms a'r maes parcio NCP, y newyddion da yw bod y Toucan bellach wedi cael yr hawl i symud i fewn i adeilad ar Womanby Street, sef yr hen Calcutta Club oedd arfer cael ei alw yn Sugar, a chyn hynny, Undeb/Union.
Hen bryd a da iawn pawb. Edrych ymlaen at y noson agoriadol ym mis Ebrill!