Tudalen 2 o 2

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 10:12 pm
gan benni hyll
Ma'r Toucan wedi darganfod cartre' newydd o'r diwedd!

Yn dilyn ymgais aflwyddiannus i agor y clwb mewn hen adeilad gyferbyn a'r City Arms a'r maes parcio NCP, y newyddion da yw bod y Toucan bellach wedi cael yr hawl i symud i fewn i adeilad ar Womanby Street, sef yr hen Calcutta Club oedd arfer cael ei alw yn Sugar, a chyn hynny, Undeb/Union.

Hen bryd a da iawn pawb. Edrych ymlaen at y noson agoriadol ym mis Ebrill!

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 11:07 pm
gan Hedd Gwynfor
Gret. Yw hwn yn adeilad da ar gyfer digwyddiadau byw?

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 9:17 am
gan benni hyll
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Gret. Yw hwn yn adeilad da ar gyfer digwyddiadau byw?


O be dwi'n cofio dwi erioed di gweld gig yn cael ei hysbysebu neu ei chynnal fan hyn. Dwi yn sicr heb fod i un yn y lle. Mwy o vibe dj's i'r lle na bandiau byw ond mae'n rhaid bod Simon (y perchennog) yn ddigon ffyddiog bod na lefydd addas ar gyfer pethau byw. Dwi ddim yn gwybod a fuest ti erioed i'r Toucan pan oedd hi yn yr hen Callaghans (Fat Sam's ar y pryd!) neu yn yr hen westy bach gyferbyn a Clwb, ond dwi'n meddwl bydd y vibe yn y lle newydd yn rhywbeth tebycach i'r ddau le yma yn hytrach na phan oedd y clwb ar St Mary Street a Clifton St.

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 9:58 am
gan Dwlwen
benni hyll a ddywedodd:Ma'r Toucan wedi darganfod cartre' newydd o'r diwedd!

Brilliant! Diolch am roi gwbod Benni.

Ydy hyn yn golygu bod y cais i adeiladu rhywfath o westy fan'na wedi cael ei wrthod? (Hwre os yw e - gewn ni gadw Womanby Street fel lôn gefn shifty yn ganol y ddinas. Gewn ni'r burger van dodgi 'na nôl a phopeth!)

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 10:27 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dwlwen a ddywedodd:
benni hyll a ddywedodd:Ma'r Toucan wedi darganfod cartre' newydd o'r diwedd!

Brilliant! Diolch am roi gwbod Benni.

Ydy hyn yn golygu bod y cais i adeiladu rhywfath o westy fan'na wedi cael ei wrthod? (Hwre os yw e - gewn ni gadw Womanby Street fel lôn gefn shifty yn ganol y ddinas. Gewn ni'r burger van dodgi 'na nôl a phopeth!)


Fi'n dal i obeithio y byddan nhw'n ailagor yr Horse and Groom. Tafarn go iawn.

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 3:50 pm
gan benni hyll
Dwlwen a ddywedodd:
benni hyll a ddywedodd:Ma'r Toucan wedi darganfod cartre' newydd o'r diwedd!

Brilliant! Diolch am roi gwbod Benni.

Ydy hyn yn golygu bod y cais i adeiladu rhywfath o westy fan'na wedi cael ei wrthod? (Hwre os yw e - gewn ni gadw Womanby Street fel lôn gefn shifty yn ganol y ddinas. Gewn ni'r burger van dodgi 'na nôl a phopeth!)


Dwlwen, gobeithio dy fod di'n eistedd i lawr... OEDD Y BURGER VAN YN OL YNO NOS SADWRN!!! :D

Re: Toucan ---> Journeys

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 5:14 pm
gan Dwlwen
benni hyll a ddywedodd:Dwlwen, gobeithio dy fod di'n eistedd i lawr... OEDD Y BURGER VAN YN OL YNO NOS SADWRN!!! :D

:ofn: :ofn: :ofn:

nôl at y trywydd - o'n i 'di cymysgu am leoliad y gwesty. Hynny'n mynd ymlaen mae'n debyg...