Tudalen 1 o 1

Geiriau 'Walio' - Bob Delyn

PostioPostiwyd: Mer 22 Maw 2006 3:33 pm
gan Reufeistr
Unrhywun ffansi fod mor garedig a'u postio cyn diwedd pnawn? sgynai'm copi o'r CD ne swni'n tanysgrifio nw fy hyn. Research purposes yn unig, dani ddim yn cyfro'i nos fory yn Swn o gwbwl, sa hena'n jyst tynnu'r syrpreis i ffwrdd fysa. ym.........shit. :?

PostioPostiwyd: Mer 22 Maw 2006 5:16 pm
gan dawncyfarwydd
Dyn ydw i sy'n licio codi wal -
ei chodi hi'n gadarn a'i chodi hi'n dal.
Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Trin y garrag efo trosol a gordd,
Siarad efo'r hogia ar ochor y ffordd.
Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Malio llechan yn yr ysgolhaig, ( :? ddim cweit yn dallt hon)
Ma'n gwbod am y garrag, dio'm yn dallt y graig.
Dwi'n licio walio. Licio walio.

A dwi'n gry ac yn dena fatha gena goeg,
Yn edrach fatha duw, duw o wlad Groeg
Pan dwi'n walio. Walio, walio, walio, walio, walio etc etc

Walio.

Walio, walio, walio walio, walio, walio [...]

Wel yng Nghymru, does 'na ddim lle
nac yn y golgedd nac yn y de
i godi walia. I godi walia.

A mi a' i i Iwerddon, ddim ond am ryw hyd,
i godi'r wal fwya yn y byd i gyd.
Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Walio, walio, walio.

Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Achos dyn ydw i sy'n licio codi wal,
ei chodi hi'n gadarn a'i chodi hi'n dal.
Dwi'n licio walio, walio, wal.




Ac yn y blaen.

PostioPostiwyd: Mer 22 Maw 2006 5:20 pm
gan Reufeistr
Diolch o galon. :D

PostioPostiwyd: Mer 22 Maw 2006 6:08 pm
gan Tegwared ap Seion
fuodd o'n China ar 'i wilia rywbrud? Lle o'dd y plant erill i gyd yn codi cestyll tywod, mi gododd rywun wal yng ngardd gefn rwyun.

Re: Geiriau 'Walio' - Bob Delyn

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 12:43 pm
gan Gorwel Roberts
Walio (cywiriad)

Dyn ydw i sy'n licio codi wal -
ei chodi hi'n gadarn a'i chodi hi'n dal.
Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Trin y garrag efo trosol a gordd,
Siarad efo'r hogia ar ochor y ffordd.
Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Dwi'n malio'r un lechan am yr ysgolhaig,
Ma'n gwbod am y garrag, dio'm yn dallt y graig.
Dwi'n licio walio. Licio walio.

A dwi'n gry ac yn dena fatha gena goeg,
Yn sgleinio yn yr haul fatha duw o wlad Groeg
Pan dwi'n walio. Walio, walio, walio, walio, walio etc etc

Walio.

Walio, walio, walio walio, walio, walio [...]

Wel yng Nghymru, does dim digon o le
nac yn y gogledd nac yn y de
i godi walia. I godi walia.

A mi a' i i Iwerddon, dim ond am ryw hyd,
i godi'r wal fwya yn y byd i gyd.
Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Walio, walio, walio.

Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio. Dwi'n licio walio.

Achos dyn ydw i sy'n licio codi wal,
ei chodi hi'n gadarn a'i chodi hi'n dal.
Dwi'n licio walio, walio, wal.




Ac yn y blaen.[/quote]

Re: Geiriau 'Walio' - Bob Delyn

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 2:54 pm
gan khmer hun
Campwaith o gân. Ac mae Twm Morys yn ddigon tebyg i dduw o wlad Groeg.