Cymedrolwr: Norman
bartiddu a ddywedodd:"Pwdin yw, du ei liw, y gorau brofodd neb yn fyw" yr un linell tro ar ol tro, wel sai'n gwbod y gweddill ohono, sut ddiawl mae e di dod i'm mhen i heddi sai'n gwbod!
Fel rhyw gân wirion yn dychanu perchennog siop ar y Stryd Fawr y cenid y parodi canlynol ar emyn Dafydd Jones erbyn y pedwardegau a’r pumdegau, a thyfodd erbyn y chwedegau yn anthem i dîm pêl-droed Ysgol Dyffryn Ogwen:
Wele cawsom yn Siop Dreflan
Gacan bwdin ora ’rioed –
Honno ddarfu Joni Mwnci
Ddweud amdani cyn ei bod:
Cacan yw, ia, wir Dduw,
Blawd a chyrainj a wya bach dryw.
Mewn fersiwn fwy ‘parchus’, byddid yn cyfnewid y llinell ‘Ia, wir Dduw’ am ‘Ddu ei lliw’, a hynny i osgoi cabledd uniongyrchol – neu felly y tybid beth bynnag. Mewn gwirionedd, goroesi a wnaeth y llinell honno o barodi cynharach ar yr emyn a ddeilliodd o gyfnod y Streic Fawr:
Wele cawsom ym Methesda
Bwdin gora fu erioed;
Chlywodd Young nac Arglwydd Penrhyn
Ddim amdano cyn ei ddod:
Pwdin yw, du ei liw,
Gora brofodd neb sy’n fyw.
Sôn yr oedd am y tair tunnell o bwdin Nadolig a anfonwyd i streicwyr Bethesda gan gwmni John Hill o Macclesfield ym mis Chwefror 1901.
Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai