Fi'n chuffed!
Fi wedi bod yn chwilio am y blydi gân 'ma ers sawl blwyddyn a methu darganfod beth ddiawl o'dd enw fe na pwy oedd yn ganu fe, meddwl ma'r warbler Piaf oedd yn canu'r peth!
Clywes i clip fach ohono am ychydig eiliadau ar y film 'Das Boot', ond rhoes lan chwilio ar ol sbel.
Ma' rhywbeth rhyfedd cyfareddol wedi digwydd i'r ysbryd/enaid yn rhywle achos boi Roc a Rol i fi, ond ma'r blydi can ma yn bwrw fi yn rhywle!
Wel ryw fenyw o'r enw Rina Ketty sy'n canu fe,
J'attendrai
Dim yn deall y cyswllt gyda'r ffilm ar Iwtiwb, ond o's rhywyn yn gwbod beth ma'r geiriau'n feddwl?
Reit, archeb i Amazon.fr fi'n credu, byddai'n chwibannu'r dôn am ddiwrnodau nawr!
Digon o ryfeddod!