gan Ben_Gryff » Sul 22 Gor 2007 4:10 pm
newydd dod yn ol o sesiwn ar ol bod yna o pnawn dydd gwenar ymlaen, yn campio. ddaru fi edrych ar y maes i weld sut awyrgylch oedd yna nos sadwrn ac fod yn falch fy mod i heb prynnu ticed i'r noson yna. Ddaru fi isda ogwmpas yn hopio rhwng tenia hogia Llanrwst, genod 'Pesda ac ambell i tent wahanol yn chwara'r gema yfad mwya' gwirion dwi di weld yn fy mywyd. Ar ol cerddad ilawr i'r clwb rygbi pnawn dydd sadwrn i chwara set Annioddefol ddaru fi a'r 'ogia just crwydro ogwmpas wrth dal set gwibdaith, gai toms, radio lux, rhan fwyaf o'r dubliners a genod droog. roedd gwibdaith yn anhygoel, dwi ohyd yn hoffi'r rwdlian rhyfadd rhwng caneuon. Ddaru mim twm llai chwara'n anhygoel hefyd a lwyddo i codi ysbryd pawb. Dim ond cwpwl o caneuon dwytha'r dubliners ddaru ni weld ond yn lwcys yr caneuon oedd whisky in the jar ac irish rover, digon o canu yn mynd ymlaen yn fana. roedd radio lux yn awesome unwaith eto, ddim lawer cofiadwy i ddeud am yr set rhaid i mi ddeud. ma'r cymysgiad o glitter, balwns, rapio a neidio yn set genod droog yn ennill i mi pob tro de. fan blydi tastic.
Ddaru rhywyn weld set annioddefol??? fasa'r band yn ddiolchgar am unrhyw barn yn yr pwnc yma neu yn pwnc personol 'yr annioddefol'
Golygwyd diwethaf gan
Ben_Gryff ar Sul 22 Gor 2007 7:08 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
FI YW BEN BAS!
"Beware when the drums stop! Bass solo"