gan CORRACH » Maw 20 Maw 2007 9:59 am
Dwi'n cytuno hefo'r Dyn Gwyn Gwirion. Ydi, mae Frizbee wedi llwyddo yn fasnachol. Mae Dafydd Iwan a staff Sain yn hapus iawn. Ond mae nhw yn cynrychioli;r math o fand oedd yn dioddef o'r "Maharishi Syndrome" canol y nawdegau - h.y. y bandiau "saff". Yn anffodus, mae'n ymddangos mai dyma fydd llawer o'r "werin" chwedl Sgonsan yn ei hoffi yn y dyfodol.
Mae'r edefyn ma wedi ymledu i lefydd gwahanol, ond y ffaith sylfaenol ydi fod Frizbee yn pwdu yn blentynaidd braidd, os di'r stori yn wir. Hynny ydi bygwth canu'n yr iaith fain oherwydd iddyn nhw beidio ennill gwobr. Fel ddudodd DGG, mae cydnabyddiaeth ffans yn cicio tin ennill gwobr o unrhyw fath.
Os dy'n nhw isho canu yn Saesneg, iawn, dim problam. Pob lwc. Be sy'n fy mhoeni i ydi y bydd Frizbee yn cael gigiau "braint" yng Nghymru er eu bod nhw'n canu'n Saesneg, hynny ydi yn y gwyliau mawr.