BoonBas a ddywedodd:for example y band "Bloc Party" yn y sin saesneg a nai ddim grando iw miwsig nhw, ond mae nhw yn cerddorwyr da a mae nhw di gneud hin reit fawr, felly dwin repsectio nhw am hyna!
Does dim rhaid i bobol barchu cerddorion am fod yn boblogaidd ac am werthu lot o recordiau. Mae lot o stwff yn cael ei sgwennu efo agwedd sinigaidd er mwyn cael gymaint o arian a phosib - does dim rhaid i fi barchu Steps a Limp Bizkit jyst achos bod nhw'n 'reit fawr'. Achos dwi'n meddwl bod nhw'n rybish.
BoonBas a ddywedodd:Ffaith - Mae frizbee wedi gwneud lot ir SRG a maen amlwg dydi nhw ddim yn cael yr adnabyddiaeth mae nhw yn ei haeddu!!
Be, dydi cael eu chwara drwy'r dydd, bob dydd ar Radio Cymru a cael cannoedd o bobol yn mynd i'w gigs ddim yn ddigon iddyn nhw? A hyn tra bod bandiau llai (sy fel arfer lot, lot, lot, lot, lot gwell) ddim yn cael cydnabyddiaeth.
Ac os ti'n gofyn i fi, dydi Frizbee ddim wedi gwneud lot i'r SRG. Dwi'n meddwl o safbwynt cerddorol, mae nhw'n dragio'r sin yn ol at stagnation canol y nawdegau, pan oedd pob band Cymraeg yn swnio 'run peth. Doedd 'na ddim byd gwahanol, cyffrous i fi yn bersonol tan i Kentucky AFC ymddangos, a dwi'm yn meddwl fysa lot o be sy'n digwydd heddiw yn bosib hebddyn nhw, felly dwi'n meddwl eu bod nhw, a lot o fandiau eraill sy'n gwthio'r boundaries chydig bach, wedi gwneud lot mwy o werth na Frizbee.
BoonBas a ddywedodd:Chi rioed di meddwl am y faith bod nhw isho enill yr award oherwydd mae nhw gobeithio bod y general public yn cydnabod be mae nhw wedi gwneud ir sin so far??
Darn o fetel ydi gwobr RAP. Dyna i gyd. Os ydy nhw isio (mwy o) gydnabyddiaeth, pam wnawn nhw ddim cerdded rownd y dorf ar ol gig, a dwi'n siwr fydd eu ffans yn deud i'w gwynebau gymaint ma nhw wedi mwynhau. Dyna ydi un o'r teimladau gora yn y byd.
BoonBas a ddywedodd:Os chi mor blydi galleuog a dachi sowndio then start ur own band and show us what u got!!
Dwi wedi.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. -
R & M