Oes na bobl sy'n cofio Emily?
Na, nid y gân gan Pink Floyd, ond y band o ardal Corwen, wedyn Manceinion. Wnaeth Gruff Rhys chwarae dryms iddyn nhw am adeg. Welais i nhw cwpl o weithiau yn yr 80au canol, a wnaethon nhw gefnogi fy mand innau mewn gig yn Y Waun (lle ces i'r sac am eu hoffi nhw mwy na'r roc di-fflach o'n ni'n wneud).
O'n i mewn cyswllt â Mark Williams, oedd yn drymwr, ac wedyn basydd yn y band, ac oedd yn cynhyrchu cwpl o ffansîns Saesneg. Fe wnaeth fy nghyflwyno i lot o stwff swnllyd fyddwn i ddim wedi clywed yn Waun yr 80au tywyllaf. Hoffwn i ail-gysylltu â fe os yn bosibl. Unrhywun yn ei nabod?
Hoffwn i hefyd gael gafael yn MP3au stwff Emily, os oes sut peth i gael.
Gwd.