costio arian mawr i whare yn y Cwps!

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Captain Pie » Gwe 18 Mai 2007 1:54 pm

Cytuno efo Mr Huw (er dwi rioed di bod i'r Cwps.)
Ond faint mae o'n gostio fel arfer rentio llefydd allan? efo Hendre dwi'n clwad mai £250 neu rwbath dafft fela mae o'n gostio ar y penwythnos.
Awe!
Rhithffurf defnyddiwr
Captain Pie
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 302
Ymunwyd: Sad 11 Meh 2005 5:54 pm
Lleoliad: Mewn cadair o flaen y cyfrifiadur

Postiogan khmer hun » Gwe 18 Mai 2007 2:38 pm

Ges i barti yn Cwps a ffaelu credu'n nghlustie bod nhw'n codi dim am heirio'r llofft. Ddim yn beio'r bois newydd. Triwch fargeinio a falle gewch chi'r PA am ddim!

Lle arall fi wedi sylwi fydde'n lle da am gig bach intimate, ddigwyddiad lansio neu Pictiwrs yn y Pyb yw'r cwt celf ar bwys y bwyty ar Consti. Siwr bo nhw ddim yn codi lot. Ar noson braf o haf, be' well?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Chip » Gwe 18 Mai 2007 6:04 pm

mr huw a ddywedodd:dylia bod yn ddiolchgar bod y cwps dal yn fodlon rhoi gigs ymlaen.


diolchgar am be? mae'r lle nawr yn costio felly ma ishe charjo pobl mwy i mynd mewn. a ma'r lle ond yn dal 80 ar y fwyaf, a ma'r perchnogion yn neud elw da i'w hun. ma'r peth yn itha short sighted yn tymor hir.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan mr huw » Gwe 18 Mai 2007 7:15 pm

ma nhw'n rhedeg busnes, amcan busnes ydi neud pres.
faint o fusnesi sy'n neud pres wrth roi petha am ddim?

ma tafarndai efo function rooms yn codi am logi yr ystafell, pam dylia'r cwps fod yn wahanol?
i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Postiogan Diogel » Sad 19 Mai 2007 11:13 am

Security wedi costi £12.50 yr awr a hynny ond o 9 tan 12.30. RHAID cael diogelwch trwyddedig neu fe ddaw'r licensing officer fewn a cau'r holl beth lawr-y dafarn hefyd. Os da chi wedi bod mewn gig sy ddim yndefnyddio swyddogion trwyddedig mae'n dor cyfraith.
OK, llawer yn mynd i ddweud fy mod i ond yn dweud hyn gan mai dyma yw rol cwmni Diogel ond oleua da ni'n rhoi pobol Cymraeg eu hiaith ar y drysau ac yn ceisio creu gwell awyrgylch.
Ma Geraint ond yn gofyn arian am y stafell. Byth wedi clywed amdano fen codi am PA. Sain credu fod en berchen ar PA. Trefno ni gig Frizbee nol yna yn Mis Chwefror a doedd dim PA yn y lle. Ewch i siarad efo fe a haglwch. Treiwch ffeindio lle arall yn Aber sydd ddim yn codi am ystafell........ok wait for it, mi fydd rhywun wedi dod o hyd i un!!!!!!!!!
Teimlo mai drwg deimlad tuag at y perchnogion newydd yw hyn. Ma'r oes yn newid bois bach. Mi nath y gig olaf elw yn ol fyn nghalculations i efo digon o cash yn y pot......trueni bod rhaid i ni hela bil ir trefnydd am iddi methu talu ar y noson!!!!!!!! Dyna beth yw busnes gwael.
DIOGEL - Cwmni diogelwch Cymraeg ar gyfer sioeau, gigiau a chyngherddau.
http://www.diogel.org.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Diogel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 20 Meh 2006 12:49 pm
Lleoliad: Goginan

Postiogan *HERO69* » Sul 20 Mai 2007 9:49 am

Dwi'm n meddwl bod e'n rhy drwg i gymharu a coste Queens Hall Narberth, venues Caerdydd a leffydd fel na.

£160 o expenses (cyn talu bands) - faint o bobl sy'n gallu ffitio yn y Cwps?
Fi'n mynd i safio'r SRG o'r Port connection
Rhithffurf defnyddiwr
*HERO69*
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 391
Ymunwyd: Llun 15 Rhag 2003 12:04 pm
Lleoliad: Carffosiaeth

Postiogan gronw » Sul 20 Mai 2007 6:26 pm

*HERO69* a ddywedodd:£160 o expenses (cyn talu bands) - faint o bobl sy'n gallu ffitio yn y Cwps?

tua 80 yn swyddogol dwi'n meddwl. felly hyd yn oed os yw gig yn gwerthu allan, mae'n £2 yn ychwanegol ar bris pob tocyn :?

fe fydd llai o gigs/digwyddiadau yn cael eu trefnu yna nawr, bownd o fod. sy ddim yn mynd i neud lles ariannol i'r cwps chwaith; os yw pawb mewn gig yn gwario £10 tu ôl y bar (ar gyfartaledd), ma hwnna'n wyth can punt. dwi'n gwbod nad oes llawer o bobl yn rhoi ystafell am ddim dyddie yma, ond mae angen rhoi clod i'r cyn-berchnogion am neud hynny chware teg.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Diogel » Sul 20 Mai 2007 7:14 pm

A fel y soniwyd yn gynt fe ath ei busnes nhw i'r wal.......er hyn ewch at Geraint a haglwch, mae e yn foi rhesymol dros ben ac yn awyddus i weld cerddoriaeth Cymraeg yn cael ei chwarae lan lofft.
DIOGEL - Cwmni diogelwch Cymraeg ar gyfer sioeau, gigiau a chyngherddau.
http://www.diogel.org.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Diogel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Maw 20 Meh 2006 12:49 pm
Lleoliad: Goginan

Postiogan mr huw » Llun 21 Mai 2007 11:59 am

ydi bandiau yn gigio er mwyn neud pres, ta er mwyn codi eu proffeil.
ma records, cs's, crysau t yna i neud petha fel codi pres.
cerwch i unrhyw leoliad gigs trwy brydain a ma pob band yn fodlon mynd i lefydd a chwarae am ddim, ar golled jyst er mwyn codi eu proffeil.
mae lot o lefydd yn 'pay to play'.

ma llwyth o fandiau cymraeg yn mynd i'r clwb cavern yn lerpwl, ma'r lleoliad yna yn 'pay to play.' os na oes digon o bobol yn deud ar y drws bod nhw yna i weld y band yna, tydi nhw ddim yn cael eu talu.

pam dylia pawb ddisgwl 'pay day' mawr wrth neud gigs, yn enwedig mewn lleoliadau bach.
dwi'n dallt bod bandiau yn cael eu talu'n dda mewn gigs 'steddfod, gig wedi eu trefnu gan brwdd yr iaith ac yn y blaen ond ellith pob lleoliad ddim fforddio cael p.a i bawb ei ddefnyddio am ddim, overheads ma nhw'n fodlon gadael fynd am bod gig fynny grisiau a bod y bandiau isho pres.

ffycin safiwch eich pres, prynwch leoliad, p.a, llogwch seciwriti, cael trwydded i gynnal gigs, trwydded tan, delio efo ffeins o bobol yn yfed dan oed, gadewch pob band ei ddefnyddio fo am ddim a wedyn gawn ni weld faint o lwyddianus fydd eich menter.
i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Postiogan Reufeistr » Llun 21 Mai 2007 1:22 pm

Digon teg Huw, ond ma gigs yn y Cwps wedi bod yn digon llwyddiannus yn y gorffennol, a mond y bar oedd Glynis a Brendan yn gymyd.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai