Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2007 1:36 pm
gan Mihangel Macintosh
*HERO69* a ddywedodd:Dwi'm n meddwl bod e'n rhy drwg i gymharu a coste Queens Hall Narberth, venues Caerdydd a leffydd fel na.

£160 o expenses (cyn talu bands) - faint o bobl sy'n gallu ffitio yn y Cwps?


Clwb Ifor (llawr uchaf) £200 + VAT
Central Station Wrecsam £400 yn cynnwys VAT
Galeri Caernarfon £400

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2007 1:49 pm
gan *HERO69*
Queens Hall Narberth :
150 am y neuadd
tua 100 am quitment fel PA a golau
tua 150 am sound enginner a light engineer
a tua 30 yr awr am security
DRUD!

Buffalo Bar,
120 am y stafell a sound engineer.

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2007 2:11 pm
gan Diogel
Digon teg Huw, ond ma gigs yn y Cwps wedi bod yn digon llwyddiannus yn y gorffennol, a mond y bar oedd Glynis a Brendan yn gymyd.
[quote]

Ac edrych ble ma nhw nawr. Do...mi roedd nhwn bar arbennig ond ma overheads rhedeg unrhyw le yn anferthol. Ma'r yswiriant sydd yn mynd gyda'r lan star gan ei fod yn le efo trwydded cyhoeddus ar gyfer perfformiadau yn filoedd.

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2007 3:31 pm
gan mr huw
Reufeistr a ddywedodd:Digon teg Huw, ond ma gigs yn y Cwps wedi bod yn digon llwyddiannus yn y gorffennol, a mond y bar oedd Glynis a Brendan yn gymyd.


sgwn i pam atha nhw'n bust.
ella os bysa nhw wedi codi am y lle fynny grisiau bysa nhw dal yna a bysa'r gigs yr un mor llwyddianus ac oedda nhw?

dio'm hyna o anodd i weithio allan siawns.

easy!

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2007 4:35 pm
gan The Man With Salt Hair
Ddylia nhw just cal 50/50(Y Band ar Perchnogion)policy ar y drws.Ffwcio chargeio am y lle a os gan nhw PA yna anyway,llai o fod yn fflints a gadal pobol iwsho hwna am ddim hefyd.Ac as 4 security,Cwps ydan ni yn son am fama blydi hel.Ge ydi regulations a riw gachu.

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2007 9:56 pm
gan nicdafis
Ie, dylai bopeth fod am ddim i bawb (sy'n siarad Cymraeg).

PostioPostiwyd: Sul 27 Mai 2007 5:34 pm
gan Leusa
Mae'r Cwps yn le da i drefnu gig, mae o'n le hawdd i'w gyraedd a mae'r stafell i fyny'r staer o ffordd y bar gwaelod sy'n handi i'w gau o i ffwrdd.

'Dw i hefyd yn cytuno bod angen codi arian am rentu ystafell, mae'n eithaf teg yn fy marn i.

Ond yn anffodus nesh i drefnu gig yn y Cwps yn ddiweddar, a rhentu'r ystafell o wyth o'r gloch ymlaen. Pan gyrheuddom ni yno am 8 roedd y llofft yn llawn o fechgyn rygbi yn yfed. Nath y perchenog ymddiheuro a gaddo eu bod nhw ar fin gadael. Oni yn glen iawn hefo'r perchenog ac yn dweud fod popeth yn iawn, nes iddi hi droi'n 9 o'r gloch. Wedyn nesh i ofyn yn neis os y bysa fo'n gallu gofyn iddyn nhw adael, a mi wnaeth o hynny am 9.30.

Diwedd y noson nesh i ofyn os y ceusem ni ostyngiad am yr awr a hanner y nath o fanteisio ar y llofft i wneud elw o'r bechgyn rygbi, a nath o wrthod yn reit flin.

Nath o hefyd ddim ffonio nes y noson cyn y gig i ddweud bod angen security, a fi ddim wedi ychwanegu'r gost honno at amcangyfrif y noson.

Jyst fy mhrofiad i ydi'r uchod,ac o ganlyniad fydda i ddim yn trefnu gig yno eto.

diog elwch

PostioPostiwyd: Mer 06 Meh 2007 9:05 am
gan Gorwel Roberts
Dan yr hen drefn efo Glynis a Brendan mi aeth Brendan ar gwrs un diwrnod ar gyfer dynion diogelwch ac o'r herwydd doedd dim angen cyflogi dynion diogelwch ar gyfer y gigs, roedd Brendan yn ddigon gan fod y lle mor fach. Petai Geraint yn gwneud yr un peth byddai'r broblem ddiogelwch wedi ei sortio.