Dim smygu - llai mewn gigs?

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dim smygu - llai mewn gigs?

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 17 Mai 2007 5:28 pm

Yn dilyn y gyfraith newydd sy'n gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, pan yn trefnu gigs dwi'n sylwi bod hanner y gynulleidfa tu fas yn smocio tra bod y bandiau mlaen...

Ond oes na lai o bobl yn mynd i gigs yn sgil y gwaharddiad?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gerallt » Iau 17 Mai 2007 9:07 pm

Nes i sylwi hefyd, penwythnos dwytha yn callahans yn gwylio Gruff Rhys yn Djio!

Roedd na shed loads o bobl tu allan rhan helaeth or noson yn smocio! Braidd yn ddoniol rili!
Rhithffurf defnyddiwr
Gerallt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 181
Ymunwyd: Sul 26 Meh 2005 6:58 pm
Lleoliad: woodvilla

Postiogan Chip » Iau 17 Mai 2007 9:19 pm

sai mod os bydd e'n lleuhau y faint o bobl sy'n mynd, ond mae yn neud i gig edrych yn llai pan ma hanner y gynulleidfa mas tu fas n smygu.

yn gig cwpwl wthnose nol rodd dim pwynt mynd mas i cael awyr iach achos rodd y styd tu fas llawn pobl yn smygu, ma fe'n teimlo'n itha weird nawr mewn pub heb mwg, ti jest ddim yn disgwyl cal awyr mor glan mewn tu fewn!
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Crancod » Iau 17 Mai 2007 10:27 pm

Ie dwi'n meddwl na'r peth sy'n gwneud i gigs edrych fwy gwag ydi fod gymaint o bobl tu allan yn smygu ac oherwydd hyn yn methu hanner y gerddoriaeth, sydd yn bechod mawr. Allai ddim deall pobl sy'n mynd i gig ond yn treulio hanner eu noson tu allan ac yn methu rhan helaeth ohoni!
Crancod
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Sad 12 Mai 2007 1:41 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 18 Mai 2007 12:50 pm

Dwi'm yn cwyno os di smygwyr yn gorfod mynd allan.

Ar y ffordd i gwaith heddiw, mi basiais rhwyun yn smygu sigaret. Ces i synnu oherwydd doeddwn ni ddim di dod arogli mwg smygu mewn tafarndai ayb ers misoedd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan benni hyll » Gwe 18 Mai 2007 5:38 pm

Dwi di sylwi wrth dj'io yn ddiweddar bod y smygwyr i gyd yn tueddu i fynd off i gael smoke mewn parau yn lle just ar ben eu hunain. Felly os oes gen ti 10 o bobl sy isho fag, nawn ni ofyn i mates nhw sy'n smocio os ydyn nhw ffansi un hefyd. Sy'n golygu bo' ti just yn cael grwpiau mawr o bobl yn diflannu o'r dancefloor am tua 10 munud ac yna'n dod 'nol. Ma'n really disconcerting i weld y dorf yn fluctuate-io ond o leia ma'n rhoi mwy o le i'r bobl sy ddim yn smocio i ddawnsio :lol:
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan Prysor » Gwe 22 Meh 2007 1:09 pm

Bob Delyn yn Ring penwythnos dwytha. Un o'r bandia gora yng Nghymru. Ar fform, efo PA gwych. Ond lle oedd y bobol? Allan yn ffrynt yn ysmygu.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan mr huw » Llun 16 Gor 2007 4:20 pm

fues i'n clwb ifor bach dwy waith newn gymaint o nosweithiau a nos sadwrn i fy gig i a genod drwg odd cachlwath o bobol tu allan yn ysmygu, a nos sul es i weld the brian jonestown massacre a odd prin neb tu allan.

ai safon y gerddoriaeth sy'n gyrru pawb allan?
ta ydi mentality mynychwyr gigs cymraeg yn ffycin wiard?

so pam mynd i gig os ydi gwylio band y peth diwethaf ar feddyliau pobol.
os di'r gig/y band werth ei wylio neith pobol aros yna i weld y sioe yn lle mynd allan bob yn ail munud.
i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Postiogan Dyl mei » Llun 16 Gor 2007 4:40 pm

Dwin meddwl hfo gig nos sad, odd o mwy o pobol just yn troi fynny ar randym heb passa mynd yna, felly o nhwm rhy bothred am y band trwr set, ond hefo nos rhywun fel brian Jonestown lle odd pobol yna i weld y band yn fwriadol ella o nhw ddim mor debygol o adael am smoc.....dwin euog o neud o fy hyn rilli.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Prysor » Llun 16 Gor 2007 4:50 pm

Na, y safon ydio yn amlwg :P :P :P

Gigs awyr agored yw'r ffordd ymlaen, ogia! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai