Sengl newydd Mattoidz allan 6.8.07
Dwy flynedd ers rhyddhau eu halbwm llwyddiannus Edrych yn well o bell a arweiniodd at ennill gwobr band y flwyddyn yng ngwobrau RAP Radio Cymru y llynnedd mae Mattoidz yn dychwelyd a’u sengl newydd Z-List. Bydd y sengl allan ar 6ed o Awst ar label newydd y grwp sef My Imaginary Label.
Wedi ei recordio yn stwidio Mighty Atom Abertawe, a’i gynhyrchu gan Joe Gibb (International Velvet – Catatonia, Leftism – Leftfield) mae Z-List yn cynnwys dau drac sy’n crynhoi swn bywiog ac egniol y band. Z-List yw’r prif drac sydd yn sôn am fyd arwynebol y seleb z-list a’i daith yn “syth o’r street, mewn i Heat”. Yr ail drac ar y CD yw EYWOB (Edrych yn well o bell) sy'n gyfarwydd erbyn hyn fel rhan o set fyw y band.
Bydd y sengl ar gael o ‘Stondin Swnllyd’ y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Foundation) sydd wedi eu lleoli yn gigs Maes B a Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod. Bydd hefyd ar gael ar stondin Palas Print ar y Maes ac o siopau amrywiol eraill a hefyd arlein.
Am fanylion pellach, unrhyw ymholiadau neu archebion cysylltwch trwy http://www.myspace.com/mattoidz