Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.
Cymedrolwr: Norman
gan Mihangel Macintosh » Maw 11 Medi 2007 5:17 pm
Llongyfarchiadau i'r Dirty Words!
Llwyddodd band ifanc o Lanberis gyrraedd rownd derfynol mewn cystadleuaeth brwydr y bandiau rhyngwladol. Daeth y Dirty Words yn fuddugol mewn gornest gyffrous yn y rownd genedlaethol dros Gymru yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Nhw fydd yn cynrychioli Cymru yn erbyn 36 o wledydd eraill yng nghystadleuaeth ‘Global Battle of The Bands’ yn Llundain ar y 4ydd, 5ed, a 6ed o Ragfyr 2007.
Mae aelodau’r band, sydd rhwng 15 a 18 oed, wedi gwirioni ar y cyfle i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth rhyngwladol. Dywedodd Dan Thomas, sydd yn chwarae gitâr flaen i’r band “Da ni mor falch o gael cyfle i chwarae dros ein gwlad yn Llundain. Mi fydd yn brofiad gwych.”
Darganfod y gystadleuaeth ar wefan MySpace wnaeth yr hogia. Mi fydd y band buddugol yn y rownd derfynol yn ennill £50,000 a chyfle i fynd ar daith byd-eang yn ogystal a’r cyhoeddusrwydd sydd ynghlwm hefo gwobr o’r fath. Meddai Hywel Pitts, prif leisydd y band, “Ar MySpace wnaetho ni ffendio’r gystadleuaeth a’r unig reswm benderfynon ni gymeryd rhan oedd am ein bod yn digwydd bod lawr yng Nghaerdydd yn chwarae mewn gig ar y penwythnos yna. Mi dalodd i ni wneud; a mai’n anodd credu ein bod yn cael cynrhychioli Cymru a chael cyfle gwerth chweil i chwarae hefo bandiau o bob rhan o’r byd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen ac yn benderfynol o roi cant y cant iddi.”
Bydd y Dirty Word yn chwarae yn Cofi Roc Caernarfon ar yr 20fed o fedi a Gŵyl Re-Play yn Neuadd Hendre, Tal-y-Bont ar yr 22ain.
Am fwy o wyboaeth ewch i
http://www.myspace.com/thedirtywordsbanda
http://www.myspace.com/ydirtywords
-
Mihangel Macintosh
- Cymedrolwr
-
- Negeseuon: 4234
- Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
- Lleoliad: Disgotec y deillion
-
Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai