Ystyr 'Ethiopia newydd'

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ystyr 'Ethiopia newydd'

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 18 Hyd 2007 9:02 pm

Maddeuwch fy anwybodusrwydd.

Gymaint ag ydw i'n canu a chyda hyn ymhlith y miri a'r llawenydd daw ysfa sydyn am ryw Ethiopia Newydd dwi ddim yn dallt be mae hynny'n feddwl.

Siwarli, 'dio ddim yn golygu cael Cymru ar ei newydd wedd, yn llawn pobl anffodus yn llwgu ac yn ffocws ymgyrchoedd gan Cymorth ?

So be ydi'i arwyddocâd o?
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan osian » Iau 18 Hyd 2007 9:12 pm

Ethiopia - cartref Rastaffariaeth dwi'n meddwl? :? Ella mod i'n hollol rong ond dwi'n meddwl mai dyna mae'r gan yn cyfeirio ato, Cymru yn clywed "reggae ar y radio"...
Dwi'm am ddeud dim mwy rhag ofn mod i'n gneud ffwl llwyr o'n hun.
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 18 Hyd 2007 9:24 pm

O'n i am fod yn glyfar a dweud mai Jamaica ydoedd ond fi sy'n rong..damiai...

(lwcus imi jecio!)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Reufeistr » Gwe 19 Hyd 2007 8:46 am

I looove, King Selassie. I looove King Selassie I.

10 pwynt i'r sawl ellith neud y connection rhwng y geiriau uchod ^^^ a'r Anifeiliaid Anhygoel o Flewog.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan HuwJones » Iau 20 Rhag 2007 1:24 am

Mae rhaid bod gan yr LP yma rhywbeth arbennig, mae lot o cover versions wedi bod ac mae geiriau "Dal dy dir" o gytgan y brif gan wedi cael eu defnyddio fel slogan ac fe'i beintiwyd ar ddwsinau o waliau. A thua 30 mlynedd ar ol iddi cael ei rhyddhau mae pobl dal i ganu "Ethiopia Newydd" a dyfalu beth uffern oedd Jarman yn son am?

Ynglyn ag arwyddocâd y geiriau "Ethiopia Newydd" - Mae'n gan felancolaidd am y deheuad am baradwys amhosib.

Yn y can mae Jarman yn cyfeirio at steil ganeuon reggae y cyfnod oedd yn son o hyd am "ddychwelyd i Ethiopia" - a sut roedd gan rhai Cymry ar y pryd "ysfa ryw Ethiopia Newydd" sef "Y Fro Gymraeg" - Dau baradwys dychmygol, amhosib.

Mae'n anodd cyfleu pa mor cyffroes, ac exotic oedd reggae ar y pryd, ac hefyd pa mor dylanwadol. Roedd y Rastas yn credu dylai bobl duon 'dychwelyd' i Ethiopia gan fod eu gwreiddiau yn Affrica. Mae termau fel "African American" yn term swyddogol, parchus nawr - ond pryd hynny roedd o'n ddatganiad reit radicalaidd i ddweud bod pobl duon Jamaica, America neu Tiger Bay yn dod yn wreiddiol o Affrica.

Roedd y syniad o "Y Fro Gymraeg" yn bwnc anhygoel o ddadleuol ar y sin Cymraeg ar yr un pryd. Roedd "Y Fro Gymraeg" yn rhan o syniadaeth Mudiad Adfer - grwp bach o genedlaetholwyr oedd yn credu mewn purdeb un-ieithrwydd a 'dychwelydd' at baradwys cefn gwlad Cymraeg. Roedd y rhan mwya o genedlaetholwyr yn credu bod syniadau Adfer yn gwbl anarferol a bu dadlau ffernig rhwng CyIG/Plaid Cymru ar un ochr ac Adferwyr ar y llall. Llinell cyntaf y gan yw 'rhywbeth newydd ddaeth i'r fro - yn chwilio am wlad heb ddim co' .

Yn 1984 - chwe mlynedd ar ol i'r gan Ethiopia Newydd ymddangos bu newyn mwya erchyll yn Ethiopia. Fel ti'n dweud "yn llawn pobl anffodus yn llwgu ac yn ffocws ymgyrchoedd cymorth". Yn chwalu myth y Rastas i "ddychwelyd" at wlad yr addawid.

Fel llawer o ganeuon mae'r ystyr y gan Ethiopia Newydd wedi'i cham -ddehongli yn llwyr gan rhai pobl. (ee Born in the USA - Springstein oedd i fod yn gan WRTH-wladgarol ond gafodd ei chanu fel anthem gan rednecks).

Yn eironi mwyaf perffaith oedd i fudiad Cymuned (sydd hefyd yn credu mewn "Fro Gymraeg") defnyddio llinell o'r cytgan fel eu slogan "Mae Ethiopia Newydd yn dod cyn hir - DAL DY DIR"
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 02 Ion 2008 5:07 pm

HuwJones a ddywedodd:Mae rhaid bod gan yr LP yma rhywbeth arbennig, mae lot o cover versions wedi bod ac mae geiriau "Dal dy dir" o gytgan y brif gan wedi cael eu defnyddio fel slogan ac fe'i beintiwyd ar ddwsinau o waliau. A thua 30 mlynedd ar ol iddi cael ei rhyddhau mae pobl dal i ganu "Ethiopia Newydd" a dyfalu beth uffern oedd Jarman yn son am?

Ynglyn ag arwyddocâd y geiriau "Ethiopia Newydd" - Mae'n gan felancolaidd am y deheuad am baradwys amhosib.

Yn y can mae Jarman yn cyfeirio at steil ganeuon reggae y cyfnod oedd yn son o hyd am "ddychwelyd i Ethiopia" - a sut roedd gan rhai Cymry ar y pryd "ysfa ryw Ethiopia Newydd" sef "Y Fro Gymraeg" - Dau baradwys dychmygol, amhosib.

Mae'n anodd cyfleu pa mor cyffroes, ac exotic oedd reggae ar y pryd, ac hefyd pa mor dylanwadol. Roedd y Rastas yn credu dylai bobl duon 'dychwelyd' i Ethiopia gan fod eu gwreiddiau yn Affrica. Mae termau fel "African American" yn term swyddogol, parchus nawr - ond pryd hynny roedd o'n ddatganiad reit radicalaidd i ddweud bod pobl duon Jamaica, America neu Tiger Bay yn dod yn wreiddiol o Affrica.

Roedd y syniad o "Y Fro Gymraeg" yn bwnc anhygoel o ddadleuol ar y sin Cymraeg ar yr un pryd. Roedd "Y Fro Gymraeg" yn rhan o syniadaeth Mudiad Adfer - grwp bach o genedlaetholwyr oedd yn credu mewn purdeb un-ieithrwydd a 'dychwelydd' at baradwys cefn gwlad Cymraeg. Roedd y rhan mwya o genedlaetholwyr yn credu bod syniadau Adfer yn gwbl anarferol a bu dadlau ffernig rhwng CyIG/Plaid Cymru ar un ochr ac Adferwyr ar y llall. Llinell cyntaf y gan yw 'rhywbeth newydd ddaeth i'r fro - yn chwilio am wlad heb ddim co' .

Yn 1984 - chwe mlynedd ar ol i'r gan Ethiopia Newydd ymddangos bu newyn mwya erchyll yn Ethiopia. Fel ti'n dweud "yn llawn pobl anffodus yn llwgu ac yn ffocws ymgyrchoedd cymorth". Yn chwalu myth y Rastas i "ddychwelyd" at wlad yr addawid.

Fel llawer o ganeuon mae'r ystyr y gan Ethiopia Newydd wedi'i cham -ddehongli yn llwyr gan rhai pobl. (ee Born in the USA - Springstein oedd i fod yn gan WRTH-wladgarol ond gafodd ei chanu fel anthem gan rednecks).

Yn eironi mwyaf perffaith oedd i fudiad Cymuned (sydd hefyd yn credu mewn "Fro Gymraeg") defnyddio llinell o'r cytgan fel eu slogan "Mae Ethiopia Newydd yn dod cyn hir - DAL DY DIR"


Roeddwn i'n meddwl mai 'rhywbeth newydd ddaeth i'r fro - gweld ein gwlad yn mynd o'i cho' yw'r geiriau ac nid 'yn chwilio am wlad heb ddim co'. Beth fyddai pwynt 'chwilio am wlad heb ddim co'? Dwi ddim yn meddwl bod Jarman yn coleddu syniadau Adferaidd chwaith, dim o gwbl, does dim yn Adferaidd yn ei ganeuon o gwbl, yn hytrach mae'n eangfrydig ac yn edrych allan ac mae o am i ni wneud yr un peth - RHYWBETH NEWYDD ddaeth i'r fro, ac 'mae clustiau Cymru fach yn clywed reggae ar y radio' - dan ni ddim yn ynysig, mae 'na bobloedd eraill yn y byd fel ni. Mae'n cynnig delwedd newydd i ni o Gymru, fel y Rastaffariaid mewn caethiwed ym Mabilon - sdim isio cymryd ystyr y peth yn rhy lythrennol chwaith. Mae'r gân yn wych ac fel ambell i gân wych arall mae'n amhosib rhoi dy fys ar yr union ystyr. Mae'n gweithio ar yr isymwybod ac nid propoganda na polemic ydi hi i fod. Mae fel drych mewn ffordd, elli di weld be fynni di ynddi.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Llyr Gwyn » Llun 07 Ion 2008 1:45 pm

Reufeistr a ddywedodd: I looove, King Selassie. I looove King Selassie I.

10 pwynt i'r sawl ellith neud y connection rhwng y geiriau uchod ^^^ a'r Anifeiliaid Anhygoel o Flewog.


Reufeistr - dwi'n meddwl bod yr Anifeiliaid wedi samplo'r gan yma gan Ladysmith Black Mambazo ar yr EP Ice Hockey Hair. Y gan Smoking, dwi'n meddwl, ond dwi'm yn hollol siwr - ydw i'n agos?
Llyr Gwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Iau 05 Ebr 2007 1:00 am
Lleoliad: Caernarfon/Caerdydd

Postiogan Reufeistr » Llun 07 Ion 2008 1:50 pm

Llyr Gwyn a ddywedodd:
Reufeistr a ddywedodd: I looove, King Selassie. I looove King Selassie I.

10 pwynt i'r sawl ellith neud y connection rhwng y geiriau uchod ^^^ a'r Anifeiliaid Anhygoel o Flewog.


Reufeistr - dwi'n meddwl bod yr Anifeiliaid wedi samplo'r gan yma gan Ladysmith Black Mambazo ar yr EP Ice Hockey Hair. Y gan Smoking, dwi'n meddwl, ond dwi'm yn hollol siwr - ydw i'n agos?


Wel. Mor agos ond eto mor bell dwi meddwl y dyliwn i ddeud achos Black Uhuru oedd y grwp, nid Ladysmith Black Mambazo. Nais won ddo.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Llyr Gwyn » Llun 07 Ion 2008 1:59 pm

damia. oni'n gwbod y dyliwn i fod wedi checio'r CD cyn atab.
Llyr Gwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Iau 05 Ebr 2007 1:00 am
Lleoliad: Caernarfon/Caerdydd


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron