Sengl Newydd Radio Lux

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sengl Newydd Radio Lux

Postiogan Dai Texas » Llun 22 Hyd 2007 4:55 pm

Bydd Sengl Newydd Radio Luxembourg - 'Where is Dennis? / Cartoon Cariad' yn cael ei rhyddhau ar y 5ed o Dachwedd ar Vinyl 7" Limited (D.U) a Lawrlytho. Ma yna drac bonws (Down by the Sand) ar y Record 7" yn unig - a bydd modd prynu'r record wythnos cyn y dyddiad rhyddhau ar daith D.U y band. Bydd y sengl ar werth mewn siopau recordiau ym Mhrydain ac ar pob gwasanaeth lawrlwytho (itunes, napster, tesco, amazon etc etc). Am flas o'r traciau a holl newyddion y band cewch i http://www.myspace.com/radiolux.
Bydd gigs yn Aberystwyth a Gogledd Cymru yn cael ei drefnu'n fuan, ond dyma gigs cyn belled

23/10/07 - BBC Livesong @ BBC Club - Llundain
24/10/07 - BBC Electric Proms, Electric Ballroom, Llundain
29/10/07 - BBC Introducing Caerdydd - Clwb Ifor Bach
30/10/07 - BBC Introducing Worcester - Marrs Bar
31/10/07 - BBC Introducing Northampton - New Roadmender
01/11/07 - BBC Introducing Lerpwl – Barfly
02/11/07 – BBC Introducing Caergrawnt - Junction
07/11/07 - Sesiwn Radio byw i Marc Riley BBC6 music
10/11/07 – Swn Festival, Caerdydd

Ma'r gigs BBC i gyd AM DDIM gyda llaw.

Hwyl


http://www.bbc.co.uk/cymru/c2/safle/newyddion/cynnwys/radiolux_sengl.shtml
Dai Texas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 132
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 4:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Jaff-Bach » Llun 22 Hyd 2007 8:17 pm

Dwin dod ir gig yn Lerpwl wsos nesa! yeeeeeeeei am radio lux!
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Postiogan Dai Texas » Maw 23 Hyd 2007 9:06 am

Datganiad i'r wasg ( :rolio: ) (baisically yr un peth a uchod just efo iaith gwell)

Band: Radio Luxembourg
Sengl: ‘Where is Dennis?’/ ‘Cartoon Cariad’
Fformat: 7” nifer cyfyngedig/ Lawrlwytho
Dyddiad rhyddhau: 05/11/07
Label: Peski

Yn dilyn haf diflas arall mae’r tywysogion pop, Radio Luxembourg, yn carlamu tua’r machlud i’n hachub unwaith eto gyda’i hail sengl oddi ar y label eclectig Peski. Mae’r gampwaith hon gan y pedwar llanc o Aberystywth yn bot paent o liw sy’n glanio ar y glust yn sblash llachar o felodiau cyfoethog a synau dieflig.

Mae’r sengl Where is Dennis / Cartoon Cariad yn record dau drac ac un trac bonws, y cyfan i’w ryddhau ar feinl 7” nifer cyfyngedig. Bydd y caneuon hefyd ar gael i’w lawrlwytho. Er y natur ysgafn-lawen sydd nawr i’w ddisgwyl o ganeuon Radio Luxembourg, daw’r geiriau â chipolwg o rywbeth tywyll, mwy sinistr yn siffrwd o dan yr wyneb.

Agorir y sengl gyda Where is Dennis – hanes tywyll am anffawd bachgen ifanc dramor. Dywed y prifleisydd, Meilir Jones, “Mae’r gân yn rywfath o ‘murder mystery’ am fachgen ifanc, unig a thawel. Wrth i’r gân ddatblygu cynyddir yr ymdeimlad bod y bachgen ifanc hwn yn cam-drin neu’n lladd hen fenywod. Rwy’n meddwl i’r gân gael ei hysbrydoli gan Alfred Hitchcock a Syd Barret”.

Cân bop annwyl yw’r ail drac Cartoon Cariad sy’n sôn am ddisgyn mewn cariad yn yr ysgol. Cafodd ei hysgrifennu tra’r oedd sawl aelod o’r band yn dal i fynychu’r ysgol. Mae’r trydydd trac Down by the Sand (ar gael ar 7” yn unig) yn gân glan-mor ddiniwed â recordiwyd yn ystod oriau mân y bore yn nyfnderoedd tywyllaf gogledd Cymru.

Crewyd y gwaith celf gan y feistres lliw Ruth Jen, â gydweithiodd â’r band yn ddiweddar yn cynllunio set lwyfan ar gyfer eu gigs byw dros yr haf.

Wedi ennill enw i’w hunain fel un o’r bandiau mwyaf cyffrous i ddod allan o Gymru ers tro mae’r grwp yn parhau i ennill clod. Yn ystod Ebrill 2007, i hyrwyddo ei EP diwethaf, Diwrnod Efo’r Anifieiliad, bu’r band yn teithio gyda’u cynhyrchydd a’u gwrw, Euros Childs, ac yn gigo o amgylch y wlad yn cynnwys chwarae ar lwyfan BBC Introdcuing gŵyl Glastonbury. Maent wedi eu dewis i chwarae yn y BBC Electric Proms ar ddiwedd mis Hydref yn cefnogi Siouxsie Sioux, ac wedyn byddant yn teithio o amgylch Prydain gyda BBC Introducing a Radio 1.
Dai Texas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 132
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 4:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan *HERO69* » Maw 23 Hyd 2007 10:10 am

Cytwynwyd Peski i werthu'r MP3au ar http://www.recordiaukimberley.co.uk WYTHNOS CYN bod y CD'au ar werth yn y siopau!

wahey.
Fi'n mynd i safio'r SRG o'r Port connection
Rhithffurf defnyddiwr
*HERO69*
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 391
Ymunwyd: Llun 15 Rhag 2003 12:04 pm
Lleoliad: Carffosiaeth

Postiogan krustysnaks » Maw 23 Hyd 2007 10:25 am

Bydde chi di gallu sillafu enw Meilyr yn iawn yn y datganiad i'r wasg ...
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Dai Texas » Maw 23 Hyd 2007 10:40 am

WYTHNOS CYN bod y CD'au ar werth yn y siopau!


7" Ltd Vinyl + Lawrlwytho = Dim CDs (unless bo chi'n cael gafael ar promo!) :winc:
Dai Texas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 132
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 4:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan CapS » Gwe 26 Hyd 2007 12:42 pm

Epic. Ydy "Os Chi'n Lladd Cindy" ar gael i'w lawrlwytho yn rhywle? Dim gramomaphone, chi'n gweld.

Diolch.
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Postiogan gruff » Gwe 26 Hyd 2007 12:52 pm

modd archebu'r sengl newydd fel pre-order yma.
gruff
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 270
Ymunwyd: Iau 13 Chw 2003 2:51 pm
Lleoliad: caerdydd

Postiogan *HERO69* » Maw 30 Hyd 2007 2:23 pm

*HERO69* a ddywedodd:Cytwynwyd Peski i werthu'r MP3au ar http://www.recordiaukimberley.co.uk WYTHNOS CYN bod y CD'au ar werth yn y siopau!

wahey.


ar ffurf MP3 ers ddoe!!!!!!!!
Fi'n mynd i safio'r SRG o'r Port connection
Rhithffurf defnyddiwr
*HERO69*
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 391
Ymunwyd: Llun 15 Rhag 2003 12:04 pm
Lleoliad: Carffosiaeth

Radio Luxembourg:

Postiogan Peski » Llun 05 Tach 2007 3:35 pm

Mae'r vinyl ar gael o heddiw ymlaen i bawb yn y byd. Ac os ydych yn rhy ddiog i'w brynu, yna ewch i archebu eich copi drwy wefannau Sebon neu Kimberley Records. Ac os ydych yn ddiogwyr eithafol, yna cliciwch yma i'w brynu a'i lawrlwytho RWAN!/NAWR!/?:

http://phobos.apple.com/WebObjects/MZSt ... =267479449


Diolch am eich cefnogaeth a dewch i'n parti Peski pnawn Sadwrn nesaf ym Mar Buffalo, Caerdydd.

x
Peski
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Gwe 30 Mai 2003 6:13 pm
Lleoliad: Cymru

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron