rheola newydd y PRS

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Eric Young » Gwe 09 Tach 2007 10:02 am

wel, well rhaglen na beth oeddwn wedi disgwyl, chwarae teg - er bod e'n amlwg bod y cyllid ar gyfer y rhaglen yn isel iawn

wedi dweud hynny, on i'n hoffi'r "close-ups" o sgidie Ian Cottrell - class.
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

Postiogan benni hyll » Gwe 09 Tach 2007 10:59 am

Oni'n meddwl bod Hacio yn dda iawn neithiwr. Piti bod un grwp yn cael delusions of grandeur trwy ddweud bod 'na "ormod o grwpiau shit allan yna sy ddim yn haeddu cael arian".
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan Eric Young » Gwe 09 Tach 2007 11:25 am

benni hyll a ddywedodd:Oni'n meddwl bod Hacio yn dda iawn neithiwr. Piti bod un grwp yn cael delusions of grandeur trwy ddweud bod 'na "ormod o grwpiau shit allan yna sy ddim yn haeddu cael arian".


Pot. Kettle. Black?

Doniol oedd clywed Mei Sibrydion yn dweud eu fod yn neud o achos maent yn mwynhau - faint mae Sibrydion yn codi am chwarae gig? - a faint mae o 'di neud allan o PRS yn yr 20 mlynedd diwethaf??

Sgen rhywun copi o statement PRS Caryl gallent sganio i fewn a rhoi yma ar gyfer Ian Cottrell? Un o'r rhai cyn Gorffennaf eleni, wrth rheswm
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

Postiogan benni hyll » Gwe 09 Tach 2007 11:36 am

Eric Young a ddywedodd:
benni hyll a ddywedodd:Oni'n meddwl bod Hacio yn dda iawn neithiwr. Piti bod un grwp yn cael delusions of grandeur trwy ddweud bod 'na "ormod o grwpiau shit allan yna sy ddim yn haeddu cael arian".



Doniol oedd clywed Mei Sibrydion yn dweud eu fod yn neud o achos maent yn mwynhau - faint mae Sibrydion yn codi am chwarae gig? - a faint mae o 'di neud allan o PRS yn yr 20 mlynedd diwethaf??

Sgen rhywun copi o statement PRS Caryl gallent sganio i fewn a rhoi yma ar gyfer Ian Cottrell? Un o'r rhai cyn Gorffennaf eleni, wrth rheswm


Be sy'n bod ar rywun yn dweud faint mae'n nhw'n mwynhau chwarae mewn grwp? Oni'n meddwl bod cyfweliad Mei yn eitha refreshing, i glywed rhywun yn dweud dyn nhw ddim yn gwneud o am yr arian. A be ydy'r ots os ydy o 'di neud lot o arian PRS dros yr 20 mlynedd ddiwetha? Dyna ydy ei fywoliaeth o. Ti'n methu barnu rhywun just achos bod nhw'n defnyddio eu talentau naturiol i wneud bywoliaeth. Dio ddim yn fai arnyn nhw os ydyn nhw'n gallu sgwennu caneuon da, nadi?
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan Eric Young » Gwe 09 Tach 2007 11:39 am

Nadw, ond fy mhwynt i ydy mae o mewn sefyllfa i gario mlaen i wneud cerddoriaeth be bynnag sy'n digwydd i'r taliadau PRS, a yw'r sefyllfa yr un peth i'r bandiau ifainc sy'n dod trwyddo? Dwi ddim yn credu
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

Postiogan benni hyll » Gwe 09 Tach 2007 11:46 am

Eric Young a ddywedodd:Nadw, ond fy mhwynt i ydy mae o mewn sefyllfa i gario mlaen i wneud cerddoriaeth be bynnag sy'n digwydd i'r taliadau PRS, a yw'r sefyllfa yr un peth i'r bandiau ifainc sy'n dod trwyddo? Dwi ddim yn credu


Ond Eric, dyw hanner y bandiau ifanc ddim yn haeddu cael arian PRS gan fod nhw mor shit cofia!
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan Eric Young » Gwe 09 Tach 2007 12:05 pm

O ie - oedd Beganifs yn OK, heblaw'r anhawsterau cael digon o le i gael ego Rhodri Sion trwy ddrysau

PRS wedi gallu prynu lot o offerynau (a booze, cyffuriau) i gerddorion dros y blynyddoedd, cawn weld be fydd yn digwydd

Clywed falle bydd rhywbeth ar Wales Today amdano fe heno
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

Postiogan Dyl mei » Gwe 09 Tach 2007 1:12 pm

well dwin meddwl mae rhai cerddorion yn derbynny ar taliada Prs...dwin gwbod am un ne ddau sydd ond yn cerddorion fel bywoliaeth, felly maen uffarn o ergyd i nhw, dwi fy hyn ddim yn aelod erioed :wps: , felly dwi di colli allan ar filoedd a filoedd mashwr, bai fi ond na fo, fela mai. dwin gweld on drist iawn i labeli, yn enwedig rhywun fel sain syn cyflogi rhyw 20 o pobol dwin meddwl....

a cytuno fo coatrail, be di gwahaniaeth os mae mei di neud pres drost y blynyddoedd? mae pawb arall sydd yn neud gwaith yn cael tal call sw nin feddwl, felly pam ddim cerddorion?

cawn weld be dir fall out, dwin gweld lot o pobol yn gorfod mynd a cael gwaith llawn amser wan, a fydd hynna yn creu effaith mawr ar cerddoriaeth cyfoes, ond wedi deud hynna, dal i creu neith pawb sydd isho creu de.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 09 Tach 2007 1:20 pm

Un cwestiwn sydd gen i - pwy oedd yn cynrychioli buddiannau cerddorion Cymreig wrth i'r trafodaethau yma fynd yn eu blaenau?

Ma'r sefyllfa'n warthus, a ddyla fo ddim bod wedi gallu gadael y bwrdd trafod a'i roi ar bapur. Oes na gynrychiolaeth Gymreig ar fwrdd PRS? Os na, pam?

Lle mae'r WMF yn dod mewn i hyn? Ydyn nhw ddim fod i gadw trac ar y digwyddiadau hyn a lobio lle bo hynny'n briodol?

Fethish i Hacio, ond oes na esboniad clir ar y we neu mewn print o sut mae hyn wedi digwydd a'r rhesymau dros y newidiadau? Swn i'n lecio'i ddarllan o.

Oes na aelod seneddol Cymreig sy'n rhan o'r llywodraeth sydd yn gyfrifol am (neu a diddordeb mewn) cerddoriaeth/diwylliant?

Ma'r holl beth yn nyts.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Eric Young » Gwe 09 Tach 2007 1:31 pm

Dyl mei a ddywedodd:be di gwahaniaeth os mae mei di neud pres drost y blynyddoedd?


Dim byd! Pob lwc iddo! Ond bydd y rheini sy'n dod trwodd ddim â'r un cyfleoedd oedd ganddo

derbynny? Dibynnu ti'n feddwl?
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron