Annwyl Gyd-aelodau o'r PRS,
mae'n debyg nad oes angen imi ddweud wrthych fod?taliadau PRS wedi gostwng yn sylweddol iawn.? Mae hyn oherwydd y?modd?y mae'r PRS yn penderfynu sut i ddosbarthu eu harian "allocations", h.y.? yr arian a ddosberthir am y defnydd o ganeuon mewn pob math o sefydliadau, clybiau, discos a thafarndai ac ati, a hynny ar sail y traciau a ddarlledir ar y radio. Gan fod Radio Cymru bellach yn cael ei ystyried ar wahan, mae'r "allocations" wedi disgyn allan fel petai, ac o ganlyniad, mae'r rhan fwyaf ohonom sy'n dibynnu ar Radio Cymru am chwarae ein caneuon wedi gweld lleihad o hyd at 90% yn ein derbyniadau.
Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, a'r bygythiad i'r holl ddiwydiant cerddorol Cymraeg, rhaid inni weithredu gyda'n gilydd, a hynny ar unwaith. Mae ein grym ni yn deillio'n bennaf o'r ffaith na all Radio Cymru fodoli heb ein cynnyrch, na chynnwys cerddorol S4C ychwaith, a rhaid inni herio'r penderfyniad hwn o du PRS. Pe baem yn tynnu allan o'r PRS, byddai'n rhaid i Radio Cymru a phawb arall negodu telerau newydd gyda ni cyn y gellid defnyddio'n?gweithiau, a gallem wneud hynny naill ai fel corff annibynnol, neu fel unigolion, neu fel rhan o gorff arall (megis, er enghraifft, IMRO yn Iwerddon).
Rydym wedi gweithredu fel ffrynt ar ran cyhoeddwyr cerddoriaeth o'r blaen, ond y mae'r bygythiad cynddrwg y tro hwn fel bod yn rhaid taflu'r rhwyd ymhellach, a gobeithio felly y byddwch yn fodlon rhoi eich enw wrth y llythyr a atodir wrth y neges hon. Rhowch eich enw, enw eich cwmni neu eich enw proffesiynol, a'ch cyfeiriad e-bost os ydym wedi eich cyrraedd yn anuniongyrchol, a'i ddychwelyd at
dmr@sainwales.com
Byddem yn ddiolchgar o gael eich ymateb?cyn?gynted?⠰hosib, ac os yn bosib, erbyn Hydref 19eg fan bellaf.? Byddwn hefyd yn ddiolchgar petai modd i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen?at unrhyw aelod arall o PRS fyddai'n debygol o gael ei effeithio gan y penderfyniad hwn.
Newydd gael hwn trwy e-bost