Rhodri Nwdls a ddywedodd:Un cwestiwn sydd gen i - pwy oedd yn cynrychioli buddiannau cerddorion Cymreig wrth i'r trafodaethau yma fynd yn eu blaenau?
Sain dwi meddwl, ma na llwyth o swyddi yna at risk oherwydd y penderfyniad.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma'r sefyllfa'n warthus, a ddyla fo ddim bod wedi gallu gadael y bwrdd trafod a'i roi ar bapur.
Wel, yndi a nadi. Doedd y system allocations ddim rili'n deg chos oedda chdi'n gal llwyth o bres am petha fel Jukeboxes a petha er fod dy fiwsig di ddim rili ar unrhyw jukebox. Dwi'n cofio wbath ar statement fi unwaith: 'UK Aerobics & Fitness Video'! Hoffwni weld y "fideo aerobics" ma sydd hefo un o caneuon fi arna fo!
Ar y llaw arall, ma'r airplay rate yn warthus. Tua 80 ceiniog am pob tro ma Radio Cymru'n chwara un o dy ganeuon di, tra ma Radio 1 wbath fel degpunt y can. Y ddadl yw bod Radio Cymru yn orsaf cenedlaethol, ond ar y funud, o be dwi'n ddallt, yn disgyn i mewn i'r un categori a gorsafoedd rhanbarthol y BBC fel BBC Merseyside, etc.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Oes na gynrychiolaeth Gymreig ar fwrdd PRS? Os na, pam?
John Hywel Morris sy'n sortio royalties Cymraeg PRS, ffwc o foi iawn, di'o'm byd i neud hefo'r thing ma ddo.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Fethish i Hacio, ond oes na esboniad clir ar y we neu mewn print o sut mae hyn wedi digwydd a'r rhesymau dros y newidiadau? Swn i'n lecio'i ddarllan o.
Aye, fethishi hwn fyd, oedd o'n dda i wbath?
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma'r holl beth yn nyts.
Fel udishi, yndi a nadi.
Ond eto, dwi'm yn gwbod y stroi llawn chwaith.