Tudalen 1 o 4

rheola newydd y PRS

PostioPostiwyd: Maw 23 Hyd 2007 5:35 pm
gan Be_ddiawl
rywin arall yn cytuno hefo fi bod rheola newydd y PRS yn hollol 'racist'

90% allan o bob proffit mae bandiau cymraeg yn gwneud a hefyd bandiau dramor

ond mae bandiau saeneg yn gael yr 100% llawn

dyna be rydw i wedi clywad

ydion wir? ne dwi d gamddallt?

PostioPostiwyd: Maw 23 Hyd 2007 6:40 pm
gan Dai dom da
Ie ti'n reit. Disaster, total disaster. Sain credu bod e'n ddim byd 'racist' ddo.

PostioPostiwyd: Maw 23 Hyd 2007 7:22 pm
gan Gruff_Fedwen_Arian
Be fysa chdi'n galw'r peth, pan ma pobl yn cael eu ffwcio drosodd am bod nhw'n siarad iaith gwahanol?
Be ddiawl sydd di digwydd?!

PostioPostiwyd: Iau 25 Hyd 2007 10:51 am
gan Gai Toms
Job Centre! Ma nhw (PRS) wedi deud -
"PRS takes the concerns of its members very seriously and recognises the very real issues you have raised with us"
Mae na gyfarfod am ddigwydd wythnos nesa' yn ol y son. Ar ol hynny ga'i benderfyny os dwi am gael job 9-5 ta be. Ond dwi'm yn meddwl na hiliaeth dio, ma Regional Radio's eraill etc yn chael hi hefyd! Ond y peth ydi, nid 'region' ydi Cymru nage! Biwrocratiaeth / Maths / £££££???? Prydeinig. Ond yng Nghymru mae diwydiant cyfa yn y fantol i'w gymharu a ee Radio York heb son am ei effaith ar y diwylliant. Full time hobby amdani! A falla neud album Saesneg i dalu bills... os gaiff ei chwara ar Radio 1 neu 2!!!!!! Cychwyn y CHBC (Cymdeithas Hawliau i Berfformwyr Cymraeg) neu y WPRS gyda radio Wales (Cymry Di-Gymraeg) a ballu.

Just when I thought I was gonna get a nice pension, the zimo collapses!

PostioPostiwyd: Iau 25 Hyd 2007 1:14 pm
gan Jakous
Sut mae hyn yn gyfreithiol bosib? Oes 'na rhywyn am fynd a hyn i'r cwrt, ta admit defeat?

PostioPostiwyd: Iau 25 Hyd 2007 1:26 pm
gan Nei
alla i rhywun fy mwyntio at y deisebau sydd wedi'u creu yn erbyn y datblygiad yma os gwelwch chi'n dda? Mae angen i ni gyd sgrifennu at PRS hefyd i wneud ein pwynt yn glir.

PostioPostiwyd: Iau 25 Hyd 2007 2:29 pm
gan Dyl mei
dwim yn meddwl dim byd hiliol ydio, just di newid rheola ma nhw, dwi yn personol ddim yn gweld nhwn mynd nol ar ei dewis yn anffodys. collad
mawr i lot o pobol. a fel udodd gai toms, ella canu yn iaith fain fydd yr unig fordd o neud cash i artistiad cymraeg....

PostioPostiwyd: Iau 25 Hyd 2007 3:46 pm
gan Gai Toms
Nei a ddywedodd:Mae angen i ni gyd sgrifennu at PRS hefyd i wneud ein pwynt yn glir.


Wedi sgwennu llythyr personol, fel aelod, at Steve Porter via Joanne Prowse. Pawb arall i wneud hefyd!

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 9:06 pm
gan gwglwaciwr
Annwyl Gyd-aelodau o'r PRS,
mae'n debyg nad oes angen imi ddweud wrthych fod?taliadau PRS wedi gostwng yn sylweddol iawn.? Mae hyn oherwydd y?modd?y mae'r PRS yn penderfynu sut i ddosbarthu eu harian "allocations", h.y.? yr arian a ddosberthir am y defnydd o ganeuon mewn pob math o sefydliadau, clybiau, discos a thafarndai ac ati, a hynny ar sail y traciau a ddarlledir ar y radio. Gan fod Radio Cymru bellach yn cael ei ystyried ar wahan, mae'r "allocations" wedi disgyn allan fel petai, ac o ganlyniad, mae'r rhan fwyaf ohonom sy'n dibynnu ar Radio Cymru am chwarae ein caneuon wedi gweld lleihad o hyd at 90% yn ein derbyniadau.

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, a'r bygythiad i'r holl ddiwydiant cerddorol Cymraeg, rhaid inni weithredu gyda'n gilydd, a hynny ar unwaith. Mae ein grym ni yn deillio'n bennaf o'r ffaith na all Radio Cymru fodoli heb ein cynnyrch, na chynnwys cerddorol S4C ychwaith, a rhaid inni herio'r penderfyniad hwn o du PRS. Pe baem yn tynnu allan o'r PRS, byddai'n rhaid i Radio Cymru a phawb arall negodu telerau newydd gyda ni cyn y gellid defnyddio'n?gweithiau, a gallem wneud hynny naill ai fel corff annibynnol, neu fel unigolion, neu fel rhan o gorff arall (megis, er enghraifft, IMRO yn Iwerddon).

Rydym wedi gweithredu fel ffrynt ar ran cyhoeddwyr cerddoriaeth o'r blaen, ond y mae'r bygythiad cynddrwg y tro hwn fel bod yn rhaid taflu'r rhwyd ymhellach, a gobeithio felly y byddwch yn fodlon rhoi eich enw wrth y llythyr a atodir wrth y neges hon. Rhowch eich enw, enw eich cwmni neu eich enw proffesiynol, a'ch cyfeiriad e-bost os ydym wedi eich cyrraedd yn anuniongyrchol, a'i ddychwelyd at dmr@sainwales.com
Byddem yn ddiolchgar o gael eich ymateb?cyn?gynted?⠰hosib, ac os yn bosib, erbyn Hydref 19eg fan bellaf.? Byddwn hefyd yn ddiolchgar petai modd i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen?at unrhyw aelod arall o PRS fyddai'n debygol o gael ei effeithio gan y penderfyniad hwn.

Newydd gael hwn trwy e-bost

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 10:16 am
gan Eric Young
Hacio, heno 10.30yh - gawn ni weld safon "investigative journalism" HTV