rheola newydd y PRS

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Gwe 09 Tach 2007 1:38 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Lle mae'r WMF yn dod mewn i hyn? Ydyn nhw ddim fod i gadw trac ar y digwyddiadau hyn a lobio lle bo hynny'n briodol?


Ie, mae'r WMF (neu SCG) wedi bod yn gweithio gyda Dafydd Roberts a'r Cynghrair Cyhoeddwyr er mwyn ceisio sicrhau ateb dderbyniol i'r sefyllfa. Mae Dafydd ar Bwrdd y WMF.

Os chi'n gwybod am aelodau PRS nad ydynt wedi ymuno â'r ymgyrch gallwch chi gael nhw i ebostio dmr@sainwales.com
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Postiogan Reufeistr » Gwe 09 Tach 2007 2:01 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Un cwestiwn sydd gen i - pwy oedd yn cynrychioli buddiannau cerddorion Cymreig wrth i'r trafodaethau yma fynd yn eu blaenau?


Sain dwi meddwl, ma na llwyth o swyddi yna at risk oherwydd y penderfyniad.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma'r sefyllfa'n warthus, a ddyla fo ddim bod wedi gallu gadael y bwrdd trafod a'i roi ar bapur.


Wel, yndi a nadi. Doedd y system allocations ddim rili'n deg chos oedda chdi'n gal llwyth o bres am petha fel Jukeboxes a petha er fod dy fiwsig di ddim rili ar unrhyw jukebox. Dwi'n cofio wbath ar statement fi unwaith: 'UK Aerobics & Fitness Video'! Hoffwni weld y "fideo aerobics" ma sydd hefo un o caneuon fi arna fo!
Ar y llaw arall, ma'r airplay rate yn warthus. Tua 80 ceiniog am pob tro ma Radio Cymru'n chwara un o dy ganeuon di, tra ma Radio 1 wbath fel degpunt y can. Y ddadl yw bod Radio Cymru yn orsaf cenedlaethol, ond ar y funud, o be dwi'n ddallt, yn disgyn i mewn i'r un categori a gorsafoedd rhanbarthol y BBC fel BBC Merseyside, etc.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Oes na gynrychiolaeth Gymreig ar fwrdd PRS? Os na, pam?


John Hywel Morris sy'n sortio royalties Cymraeg PRS, ffwc o foi iawn, di'o'm byd i neud hefo'r thing ma ddo.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Fethish i Hacio, ond oes na esboniad clir ar y we neu mewn print o sut mae hyn wedi digwydd a'r rhesymau dros y newidiadau? Swn i'n lecio'i ddarllan o.


Aye, fethishi hwn fyd, oedd o'n dda i wbath?

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma'r holl beth yn nyts.


Fel udishi, yndi a nadi.
Ond eto, dwi'm yn gwbod y stroi llawn chwaith.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan ebrill » Gwe 09 Tach 2007 3:03 pm

Allwch ail-wylio Hacio nithwr fan hyn:
http://www.s4c.co.uk/c_watch_level2.shtml?title=Hacio
Rhithffurf defnyddiwr
ebrill
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 214
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 9:46 am
Lleoliad: nant peris/caerfyrddin

Postiogan Eddie Farhau » Sad 10 Tach 2007 2:25 am

Fedrith rwyn ddeuthai felly, osna bwynt i fi dlu £100 i ymuno efo prs? faint mae on backdateio, a tua faint o bres di gwerth 3 munud ar y radio wan?!
Eddie Farhau
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Gwe 02 Tach 2007 1:38 pm

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Gwe 23 Tach 2007 4:34 pm

Mae yna ddatganiad gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ar newidiadau taliadau PRS <a href="http://www.welshmusicfoundation.com/news108/2007-11-23/wmf_statement_regarding_changes_to_prs_payments/"> yma </a> - os nag yw'n mynd i ochr Gymraeg y wefan, cliciwch ar y botwm "Cymraeg" ar top y dudalen, innit
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Postiogan Gwilym » Maw 18 Rhag 2007 8:42 am

O'r ymatebion da ni di gael i lythyrau'r gynghrair mae'n amlwg nad ydi PRS yn dallt llawer am ddiwydiant gerddoriaeth Cymru. Mae hi hefyd yn dod yn eglurach y bydd hi'n anodd perswadio nhw fod angen codi 'allocation' Radio Cymru i wneud iawn am y cam. John Hywel ydi'r unig foi mewn mor o fiwrocratiaeth sy'n cynrychioli'n buddiannau ni fan hyn, does na ddim hyd yn oed swyddog i Gymru (er fod na ddau'n benodol i'r Alban).

Bydd dadlau hefo pwyllgor Seisnig, sy'n gweld dim byd lawer tu allan i Lundain, a'u cael nhw i agor eu llygaid yn job a hanner dwi'n credu. Ond os fedrwn ni fygwth o leiaf y bydd y rhan fwyaf o aelodau yng Nghymru (da ni angen tua 350 - 400 o enwau) am adael os nad ydyi'r sefyllfa'n gwella, wedyn fydd gyno ni rhywbeth i fargeinio hefo. I neud hynny mae'n rhaid i ni hefyd fod o ddifri sefydlu cymdeithas casglu ein hunain, oherwydd a) i ddangos ein bod ni o ddifri am adael, a b) fydd rhaid i ni gael rhywbeth yn barod os ydan ni am dynnu allan eniwe.

Dwi'n gobeithio fydd ddim rhaid i ni adael ond mae hi'n edrych fel yr opsiwn orau ar hyn o bryd. Bydd hynny'n golygu bydd rhaid ail negotiatio trwyddedau'r BBC ac S4C.
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Raoul » Gwe 21 Rhag 2007 2:18 am

Os na amserlen ar pryd ma'r rheola' newydd ma'n dod fewn ta? Achos ma'r statement dwi newy' gal tuar un gwerth
ag arfer. Yn cynnwys yr arian 'uk aerobics and fitness' a pres 'karaoke' dwi bron yn sicr ddim yn haeddu.
"Order some golf shoes," I whispered. "Otherwise, we'll never get out of this place alive..."
Rhithffurf defnyddiwr
Raoul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 12 Rhag 2007 11:34 pm

Postiogan Gethin Ev » Gwe 21 Rhag 2007 2:03 pm

Back payment ydi hwnna am bod pobl wedi cwyno. Mae am fynd lawr 1/3 bob blwyddyn am y tri blwyddyn nesa dwi'n meddwl.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan Gwilym » Mer 02 Ion 2008 10:35 am

Iep, fydd y taliadau nesa lot llai, ac ymhen tua dwy flynedd a hanner fydde nhw lawr i 10% o be oedda nhw. Fydd yna ddim diwydiant cerddoriaeth Gymraeg tu allan i lofftydd erbyn hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 02 Ion 2008 11:03 am

Gwilym a ddywedodd:I neud hynny mae'n rhaid i ni hefyd fod o ddifri sefydlu cymdeithas casglu ein hunain, oherwydd a) i ddangos ein bod ni o ddifri am adael, a b) fydd rhaid i ni gael rhywbeth yn barod os ydan ni am dynnu allan eniwe.

Dwi'n gobeithio fydd ddim rhaid i ni adael ond mae hi'n edrych fel yr opsiwn orau ar hyn o bryd. Bydd hynny'n golygu bydd rhaid ail negotiatio trwyddedau'r BBC ac S4C.


Ydy'r gwaith o sefydlu 'Cymdeithas Gasglu' ar gyfer artistiaid yng Nghymru wedi cychwyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron