well dwin meddwl mae rhai cerddorion yn derbynny ar taliada Prs...dwin gwbod am un ne ddau sydd ond yn cerddorion fel bywoliaeth, felly maen uffarn o ergyd i nhw, dwi fy hyn ddim yn aelod erioed
, felly dwi di colli allan ar filoedd a filoedd mashwr, bai fi ond na fo, fela mai. dwin gweld on drist iawn i labeli, yn enwedig rhywun fel sain syn cyflogi rhyw 20 o pobol dwin meddwl....
a cytuno fo coatrail, be di gwahaniaeth os mae mei di neud pres drost y blynyddoedd? mae pawb arall sydd yn neud gwaith yn cael tal call sw nin feddwl, felly pam ddim cerddorion?
cawn weld be dir fall out, dwin gweld lot o pobol yn gorfod mynd a cael gwaith llawn amser wan, a fydd hynna yn creu effaith mawr ar cerddoriaeth cyfoes, ond wedi deud hynna, dal i creu neith pawb sydd isho creu de.