Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ion 2008 7:29 pm
gan Gwilym
Ddim eto. Dwi'n credu fydd y Gynghrair (sy'n cael ei gadeirio gan Dafydd Roberts, Sain) yn cynnal cyfarfodydd agored cyn hir i drafod hyn gydag aelodau Cymraeg y PRS. Bydd angen ffindio allan os di pawb isho gwthio mlaen i sefydlu corff ein hunain neu pheidio. Er dwi ddim yn gweld llawer o ddewis fy hun, os na di PRS am newid cyfeiriad, sy'n anhebygol.

Re: rheola newydd y PRS

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 12:26 pm
gan pocahontasafi
Dwi wedi rhoi gwybodaeth am gyfarfod o'r PRS sy'n digwydd heno yn Galeri C'narfon am 5.30 yn cael ei ailadrodd am 7.30. Gweler yma...

Re: rheola newydd y PRS

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 4:06 pm
gan Prysor
Cyfarfod Agored - Canolfan Y Morlan, Aberystwyth, Chwefror 17eg am 2.30

Yn fyr, hwn ydi'r cyfarfod lle bydd pethau'n symud, un ffordd neu'r llall, o ran sefydlu corff ein hunain yng Nghymru.

Os nad ydych wedi rhoi'ch enw mlaen i restr e-bost y Gyngrhair, ga i annog pawb sy'n aelodau o'r PRS, neu sy'n bwriadu ymaelodi'n fuan, i yrru eich enw a'ch ebost i dmr@sainwales.com - neu gyrrwch neges preifat i fi neu Gwilym os liciwch chi - a dewch i'r cyfarfod os y gallwch.

Re: rheola newydd y PRS

PostioPostiwyd: Mer 13 Chw 2008 11:02 pm
gan Mihangel Macintosh
Prysor a ddywedodd:Cyfarfod Agored - Canolfan Y Morlan, Aberystwyth, Chwefror 17eg am 2.30

Yn fyr, hwn ydi'r cyfarfod lle bydd pethau'n symud, un ffordd neu'r llall, o ran sefydlu corff ein hunain yng Nghymru.

Os nad ydych wedi rhoi'ch enw mlaen i restr e-bost y Gyngrhair, ga i annog pawb sy'n aelodau o'r PRS, neu sy'n bwriadu ymaelodi'n fuan, i yrru eich enw a'ch ebost i dmr@sainwales.com - neu gyrrwch neges preifat i fi neu Gwilym os liciwch chi - a dewch i'r cyfarfod os y gallwch.


Os rhywun o'r gogledd awydd rhoi lifft i fi?

Re: rheola newydd y PRS

PostioPostiwyd: Iau 14 Chw 2008 2:00 pm
gan Gwilym
Ga i jest ddeud unwaith eto fod hi'n bwysig, bwysig, bwysig i bawb sy'n aelod o PRS ddod i'r cyfarfod dydd Sul. Mae angen digon o gynrychiolaeth yno i sicrhau fod y Gynghrair yn gallu cynnal etholaeth ystyrlon.

Mae'r amser yn dechrau rhedeg allan. Dan ni angen gallu dangos i PRS ein bod ni o ddifri. Os ydan ni am fygwth neu hyd yn oed ystyried creu corff casglu hawlfraint anibynnol bydd rhaid comisiynu 'feasability study' gan rhyw arbennigwr neu gilydd. I dalu am hynny bydd rhaid gwneud cais i rhywun fel y Cynulliad (achos fydd o'n costio rhai miloedd). I fedru gwneud cais am arian mae'n rhaid i ni fod yn sefydliad ffurfiol. Dyna pam fod hi mor bwysig cael cefnogaeth cyn gymiant o gerddorion a phosib, i ddangos ein bod ni'n gallu gweithredu'n ddemocrataidd, a fod gyno ni mandate i wneud felly.

Hyd yn oed os ydach chi'n anghytuno hefo'r trywydd mae'r Gynghrair yn ei gynnig (er fod o'n no-brainer mewn gwirionedd) mae'n bwysig eich bod chi'n dod i leisio'ch barn. Fedra i ddim pwysleisio gormod pa mor ddifrifol ydi'r sefyllfa. Heb i ni sicrhau taliadau teg i gerddorion am eu gwaith mi fydd y diwydiant proffesiynnol i gyd (ddim jest y cyrff mawr fel Sain neu Fflach) YN MARW.

Re: rheola newydd y PRS

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 7:24 pm
gan Gwilym
Er gwybodaeth . . .

Gawsom ni gyfarfod da yn Aber dydd Sul. Diolch yn fawr iawn i bawb ddaru droi fyny. Oherwydd fod 'na ddigon wedi dod i gefnogi rydan ni 'di gallu ffurfioli'r Gynghrair ac ethol Pwyllgor Llywio i fynd a'r ymgyrch yn ei blaen dros y miseodd nesaf. Fydd yna gylchlythyr yn esbonio'r hyn sydd wedi digwydd ac am ddigwydd yn cael ei yru allan i bawb sydd ar y rhestr e-bost.

Diolch eto

Gwilym