'Stafell Fyw

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Stafell Fyw

Postiogan 'stafell fyw » Iau 20 Rhag 2007 12:45 pm

Howdi dw, ma gen i glecs...

O fis Ionawr nesa’ ‘mlaen, bydd Cymdeithas yr Iaith a Siarc Marw yn cyd-weithio ar gyfres o gigs i arwain fyny at ‘Steddfod Caerdydd 2008. Bydd ‘Stafell Fyw yn gyfle i fwynhau cerddoriaeth a chwmni da, mewn lleoliad hyfryd, sef bar lan-llofft Buffalo, Caerdydd.

Bydd ‘Stafell Fyw yn noson fisol, dwyieithog, gyda'r cyfan yn cychwyn ar nos Iau, Ionawr 24ain. Fydd 'na setiau gan artistiaid mawr y sîn, bandiau bach newydd, DJs da (a DJs doji), ac yn bennaf oll - soffas mawr cyffyrddus.

Os y'ch chi’n fand â diddordeb chwarae 'Stafell Fyw neu os hoffech chi ymuno â’r rhestr bostio, gyrrwch golomen i siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk...

Ma gyda ni fy-speis draw fan hyn - gawn ni fod yn ffrindiau?

Delwedd

o.n. dolig chlawen
Rhithffurf defnyddiwr
'stafell fyw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Iau 20 Rhag 2007 12:16 pm

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai