Combo amp Marshall JCM2000 DSL401.
Mae hwn yn all-valve Marshall go iawn, dim un o'r amps MG solid-state sydd lot rhatach, a ddim yn swnio hanner cystal (yn fy marn i )
2 channel - 'clean' ac overdrive, ac mae yna ryw fath o 3ydd channel sydd jysd yn adio mwy o gain.
Mae o'n amp hyblyg iawn, ac yn berffaith ar gyfer swn 'rock' eithaf budur (AC/DC, Led Zep etc.) yn ogystal a'r blues. Mae'r channel clean yn neis ac yn eithaf mellow, ac mae yna ddigon o gain ar gael i chwarae metal hefyd, os mai dyna di'ch petha chi!
Wedi cael valves newydd rhyw flwyddyn yn ol, a does na ddim problem wedi bod efo fo ers hynny. Mae o wedi cael ei gigio'n gyson efo Cowbois Rhos Botwnnog dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae o mewn cyflwr da heblaw am dipyn o 'scuffs' ar y gorchudd (mae'n berffaith bosib cael gorchudd newydd i amps fel hyn).
Newydd weld un yn mynd am £550 yn newydd Gamlin's Caerdydd, felly dwi'n chwilio am £300.
(Nid fy un i sydd yn y llun, ond yr un model ydi o.)
Gyrrwch neges breifat os dachi isho holi mwy.
Diolch,
Aled