21/01/08, Cyfarfod Aelodau PRS, Galeri, Caernarfon

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

21/01/08, Cyfarfod Aelodau PRS, Galeri, Caernarfon

Postiogan pocahontasafi » Llun 21 Ion 2008 12:21 pm

Mae cyfarfodydd pwysig o aelodau'r PRS ac unrhyw un arall am a wn i yn Galeri, Caernarfon heno - un cyfarfod yn cychwyn am 5.30 ac yn cael ei ailadrodd am 7.30 er mwyn siwtio pawb. Dyma'r e-bost dderbyniwyd gan Dafydd Roberts:

Annwyl Gyd-aelodau o'r PRS,

Hoffwn gadarnhau bod dau gyfarfod wedi ei drefnu yn Ystafell C3, Galeri, Caernarfon ar nos Lun, Ionawr 21ain i drafod y diweddaraf gyda'r PRS.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn cychwyn am 5.30 a'r ail gyfarfod am 7.30 yr hwyr.

Mae croeso i chi ddod i unrhyw un o'r cyfarfodydd. Y gobaith yw bod un amser yn fwy cyfleus na'r llall i chi, a bydd yr aelodau yn rhannu yn naturiol er mwyn cael tua 10 - 15 ymhob cyfarfod.

A fyddech cystal â tharo e-bost yn ol i gadarnhau os ydych yn bwriadu dod i'r cyfarfod cyntaf, neu'r ail, er mwyn i mi gael rhyw syniad o'r niferoedd?


Diolch yn fawr,

Cofion,

Dafydd
(ar ran Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru)

Canolfan Sain,
Llandwrog, Caernarfon,
Gwynedd LL54 5TG
T +44 (0)1286 831111
F +44 (0)1286 831497
dmr@sainwales.com
http://www.sainwales.com
pocahontasafi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 25 Medi 2006 2:41 am

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai