Chi, eich cerddoriaeth a’r chwyldro digidol:
Strategaethau ar gyfer Llwyddiant
NEWI (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru)
Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
Dydd Iau 7 Chwefror, 10.30am-5.30pm
Os ydych chi’n gysylltiedig â’r diwydiant cerddoriaeth ar y funud byddwch yn ymwybodol fod popeth yn newid ar gyfradd o fegabitiau yr eiliad. Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Undeb y Cerddorion wedi trefnu digwyddiad sy’n bwriadu eich helpu i fanteisio’n llawn ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, a ffynnu yn yr awyrgylch ddigidol newydd.
Pwrpas y diwrnod yw rhoi mwy o ddealltwriaeth o sut i groesawu a defnyddio technolegau newydd mor effeithiol ag sydd bosibl ac mae’n berthnasol i ba fath bynnag o gerddoriaeth ydych chi’n gweithio â hi. Byddwch yn darganfod sut i roi hwb anferthol i’ch presenoldeb ar y we a chysylltu â, a defnyddio gwasanaethau ar y we i werthu a hyrwyddo eich cerddoriaeth ar-lein. Dim MySpace yw’r unig bosibilrwydd sydd ar gael…
Mae siaradwyr yn cynnwys Andrew Dubber(http://www.newmusicalstrategies.com), Uwch ddarlithydd, uchel ei barch mewn Diwydiannau Cerddoriaeth yn UCE Birmingham a gŵr sy’n gwybod y cyfan am y diwydiant cerddoriaeth ddigidol. Yn trafod y gwasanaethau sydd ar gael bydd Clive Gardner o we7.com – platfform ‘artist-gyfeillgar’ i hyrwyddo cerddoriaeth a gefnogir gan Peter Gabriel - a Chris Thompson o emusu.com, yr arbenigwyr ar e-fasnach cerddoriaeth sy’n darparu popeth sydd ei angen i sefydlu a rheoli gwefan ac i fasnachu ar-lein.
Bydd yr arbenigwr technoleg preswyl, Colin Heron, o’r adran Technoleg cerddoriaeth a TCCh yn NEWI hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â rhoi awgrymiadau ar waith – o fewnosod cerddoriaeth hyd at gwestiynau am feddalweddau.
Tom Hingley o’r band Inspiral Carpets fydd yno i gynrychioli’r cerddorion sydd wedi defnyddio technoleg a bydd yn amlinellu sut y mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid ei yrfa gerddorol ac wedi cyflwyno ffordd newydd o ryngweithio â chefnogwyr ei brosiect newydd, The Lovers.
Bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Undeb y Cerddorion yno drwy’r dydd yn egluro sut y gall eu sefydliadau hwy gynorthwyo a rhoi help llaw i fusnesau cerddoriaeth ac i gerddorion.
Mae’r diwrnod yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ac mae’n ddi-dâl, a darperir cinio. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cysylltwch â lisa@welshmusicfoundation.com neu ffoniwch 02920 494110. Mae lleoedd yn gyfyngedig.