Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan tafod_bach » Mer 20 Chw 2008 4:34 pm

fi'm yn gwbo o ble ddoist ti, del, neu bam bo fi'm di sylwi arna ti tan rwan ond ma pob un o dy bostiau di, bron, yn neud i fi smasho fy ngwyneb efo cledr fy llaw, yn galed.

pwy arall, te, sy'n 'haeddu' bod yn y carchar am gamddealltwriaeth? i say: bargeiniwch amdano fe!

'we'll swop you dave pearce, goldie and the woman from cascada...'
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 21 Chw 2008 10:18 am

Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 21 Chw 2008 10:35 am

Blimsan. Coc y gath. Druan o Grwf. :(

Haeddu fo? Bôls. Ddim fo na'r lleill sydd wedi eu carcharu yno am bron dim byd.

Ond be ffwc oedd o isio mynd i dwll tin camal o le fel Dubai be bynnag?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Ray Diota » Iau 21 Chw 2008 10:40 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ond be ffwc oedd o isio mynd i dwll tin camal o le fel Dubai be bynnag?


pwynt da - dwi'n defnyddio dubai fel ffon fesur ar gyfer pobol... os ti'n ymweld a dubai, ma rhwbeth twtsh yn rong 'da ti...

ma'r system yn ffwlprwff, fel a brofir gan y ffaith fod peter ebdon yn byw 'na...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 21 Chw 2008 10:49 am

Oedd Grwf wedi ei fwcio i chwarae mewn sell owt gig yn un o glybiau gorau'r ddinas.

Serch hynnu dylsai unrhyw un feddwl ddwywaith am ymweld a gwlad sy'n gwahardd alcohol, codine (!) benywod rhag gyrri, sy'n llabyddio am gael affair ac yn cael ei rhedeg yn anemocrataidd gan griw o cronnies cyfalafol pro-American.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Ray Diota » Iau 21 Chw 2008 11:12 am

Mihangel Macintosh a ddywedodd:gwahardd benywod rhag gyrri


sai'n lico merch yn drewi fel chicken jalfrezi chwaith, cofia... meddwl bo nhw'n iawn 'da'r reol 'ma... :winc:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Positif80 » Iau 21 Chw 2008 12:52 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ond be ffwc oedd o isio mynd i dwll tin camal o le fel Dubai be bynnag?


Dyna fy mhwynt, rili. Mae 4 blynedd yn uffernol o hallt, ond mae'n common knowledge fod Dubai yn le tough iawn ar gyffuriau, felly tough shit os ti'n gwneud rywbeth yn erbyn y gyfraith a cael eich carcharu. Mewn byd perffaith, basa neb yn poeni am ychydig o gyffuriau low-end, ond dyna fo.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 21 Chw 2008 12:57 pm

Camgymeriad oedd y ffaith fod y dôp arno fe. Ma'r boi yn superstar DJ oedd yn gigio dros y byd a nath e anghofio fod tymbach o wair yn ei boced!
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Grooverider yn y carchar am 4 mlynedd!

Postiogan tafod_bach » Iau 21 Chw 2008 1:55 pm

y ffaith fod peter ebdon yn byw 'na...


ffaith Rili dda, ray. Fi'n mynd i iwsho hi pnawn ma (motsh sut) a impresio fy nghydweithwyr a'm cyfoedion...
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron