http://www.traciaucymraeg.co.uk/priodasY Briodas Gymreig (Aran 514)gyda Huw Williams (organ) a Carys Owen (telyn)
Organydd Cadeirlan Sant Paul a Thelynores Gwerin yn rhyddhau CD i ddathlu Dydd Gw^yl DewiMae CD o gerddoriaeth Gymreig ar gyfer seremonïau priodasol yn cael ei ryddhau ar Fawrth y cyntaf gan Organydd Cadeirlan Sant Paul, Huw Williams a’r delynores gwerin, Carys Owen. Gyda’r tŵf mewn gwasanaethau sifil, a’r dymuniad i bersanoleiddio’r gwasanaethau mae cryno ddisgiau priodasol wedi dod yn hynod boblogaidd.
Hwn yw’r CD cyntaf o’i fath i gynnig y cyfle i’r priodfab a’r briodferch mynegi eu hunaniaeth Gymreig. Mae’r darnau arni yn cynnwys alawon gwerin serch i’r delyn mewn trefniadau gan Nansi Richards - Telynores Maldwyn a John Thomas - Pencerdd Gwalia a chyfansoddiadau gwreiddiol i’r organ gan Karl Jenkins a William Mathias.