CYNNAL BYWOLIAETH YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH:
SEFYDLIAD CERDDORIAETH GYMREIG I YSBRYDOLI A LLYWIO’R RHAI SY’N DECHRAU YN Y BUSNES
DYDD MAWRTH 4 MAWRTH, 4.30PM – 6.30PM, ATRIUM, STRYD ADAM, CAERDYDD.
Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cynnal digwyddiad gyrfaoedd yn Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Prifysgol Morgannwg yr Atrium, ar Fawrth 4edd 2008.
Wedi’i anelu at y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth - o dechnegwyr i bobl A+R, cyfansoddwyr i hyrwyddwyr cyngherddau - bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cynnig cyngor gan siaradwyr gwadd sydd yn gweithio yn y busnes cerddoriaeth yng Nghymru, ac fe fydd yna siawns i ofyn cwestiynau.
Fe fydd: sut i lwyddo, syniadau sut i ddechrau, a phrofiadau o weithio o dydd-i-ddydd yn y busnes yn cael eu trafod. Fe fydd yna ddiodydd ar gael ar ôl y sesiwn.
Felly, os oes ganddoch angerdd i weithio yn y diwydiant, yr ydych yn dechrau eich busnes eich hun, neu yn ffansio newid yn eich gyrfa, yna mae hyn i chi!
Mae yna gyfyngiad ar lefydd. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, yna e-bostiwch kieron(at)welshmusicfoundation.com neu galwch 02920 494 110.
Mae yna planiau ar y gweill gwneud diwrnodau cyffelyb yn Abertawe a Bangor cyn bo hir.