Tudalen 1 o 2

Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 10:25 am
gan Chwadan
Helo 'na,

Pwy all ddweud rhywbeth am Aber Jazz wrtha'i? Dwi'n chwilio am grwp jazz bach i chwarae mewn digwyddiad, ac wedi clywed enw Aber Jazz ond yn gwybod dim o'u hanes.

Ffancs!

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 10:31 am
gan Ray Diota
cwoliti!

dria'i ffindo cyfeiriad y main man i ti. ei dy ef gollodd ei do yng nghorwynt enwog bow street! :lol:

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 10:37 am
gan Ray Diota
Dim dyma'r boi on i'n meddwl am, ond dath hwn lan ar gwgl:

Aber Jazz Emyr Evans (01970) 871895

jazz band 'traddodiadol' os ti'n gwbod be s'da fi

criw o hen fois sy'n joio mas draw sy'n cal eu joino gan y bois ifanc ma nhw di bod yn dysgu yn yr ardal...

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 10:41 am
gan joni
Allai ddim ond ategu sylwadau Ray diota. Ma Aber Jazz yn gwd sdyff. Ei di ddim yn rong cael rheina yn dy ddigwyddiad.

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 11:02 am
gan Dan Dean
Nes i weld nhw mis dwytha yn Rummers. O be dwin gofio, oedd o be ti'n ddisgwl gan fand Jazz ond efo solos gwych ar adegau - mae nhw sicr yn gallu chwara.

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 12:22 pm
gan Rhys Llwyd
Band Jazz da iawn. Er... jest i dy rybuddio dwi'n meddwl fod nhw yn codi tipyn o bres i gigs sy'n bell o Aberystwyth.

Syniad arall yw i ti gysylltu gyda band Fflur Dafydd (y basist ar drymar sy'n fyfyrwyr yn Coleg Cerdd a Drama Caerdydd) - dwi wedi gweld nhw (heb Fflur) yn neud setiau jazz instrumental cefndirol o'r blaen.

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 1:58 pm
gan Chwadan
Wawi, diolch am yr ymatebions cynhwysfawr. Defnyddiol drosh ben.

Ydyn nhw'n fand mawr lly (h.y. lot o chwaraewyr yn hytrach na "big band"!)? Yn Aber fydd y digwyddiad 'ma, felly dim problem o ran hynny (diolch Rhys)! Ond o ran diddordeb, unrhyw syniad tua faint ma nhw'n godi?

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 2:05 pm
gan Ray Diota
Chwadan a ddywedodd:Ydyn nhw'n fand mawr lly


tua 5 ffwt thri. arf.

be, rhyw 6/7 ohonyn nhw sy 'na?

be yw'r digwyddiad de?

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 2:51 pm
gan Chwadan
Gei di wbod pan dwi'n gwbod os dio am ddigwydd ai peidio! :winc:

Re: Aber Jazz

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 8:19 pm
gan Captain Pie
Dwi'n chwara mewn jazz trio ym Mangor, myspace.com/thedrjaytrio, 'sa ni gallu cael ensemble mwy efo'i gilydd os ti angen, os ti efo diddordeb dyra neges preifat i fi ynglyn a trefniadau a stwff.