Helo 'na bobl - dipyn o sbel ers i mi bostio'n y lle ma ddiwetha'. Braf gweld fod Gêm Fach y Caneuon yn dal i fynd!
Ynglŷn â'r cwestiwn o ba feddalwedd i'w ddefnyddio, dwi'n meddwl y dylet ti gael gafael ar ddemo o'r rhai sy'n apelio atat ti a gweld pa un sy'n dy siwtio di. Mae'r prif stiwdios meddalwedd i gyd i weld yn cynnig yr un math o beth. Dwi'n defnyddio Logic 7 ar hyn o bryd, a wedi gwneud ers fersiwn 4.5 ar y PC. Brynis i Fac G5 er mwyn ei ddefnyddio, ond mae'n well gen i PCs a dweud y gwir. Mae'n anodd curo Logic o ran yr hyn wyt ti'n cael yn y bocs a'i bris (mae o llawer yn rhatach ers i Apple ei brynu). Mae 'na ddetholiad anhygoel o offerynnau ac effeithiau yn dod efo fo, ac yn fwy pwysig mae'u safon nhw'n uchel.
Ramirez a ddywedodd:Yn bersonol, dwi ffansi un o rhain:
Rhad fel baw: jysd 8 fader, 8 pot a chydig o fotymau, a ti'n gallu assignio nhw i be leci di o fewn y software.
Mae gen i un o'r rhain ac mae o'n wych. Pan wyt ti'n chwarae dy drac mae'r faders (pylwyr?) i gyd yn symud i fyny ac i lawr i gyfateb i lefelau yr awtomeiddio ar dy draciau. Gelli di eu defnyddio i recordio awtomeiddio, neu gafael ynddyn nhw i newid awtomeiddio wyt ti eisoes wedi'i recordio. Mae o'n dod gyda opsiwn wedi'i raglennu'n barod ar gyfer Logic, ac mae'n hawdd ei osod i weithio. Ei anfantais ydi weithiau dydi 8 pylwr ddim yn ddigon, ond gelli di brynu ac ychwanegu mwy ohonyn nhw i greu desg anferth os oes gen ti'r arian a'r lle. Mae modd rhaglennu'r botymau i gyd i gyfateb i unrhyw MIDI CC, felly gelli ddefnyddio'r pylwyr a'r botymau i chwarae samplau os wyt ti eisiau. Mae chwarae piano gyda'r 8 pylwr yn eithaf difyr gan dy fod ti'n newid y traw mymryn wrth eu symud.
Fel monitors sain mae gen i bar o Tannoys Reveal (rhai 'gweithredol'sy'n meddu ar amp mewnol yr un i bweru eu hunain). Maen nhw'n gwneud y tro. Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf ydi trio dy draciau di ar amrywiaeth o seinyddion gwahanol, mewn gwahanol ystafelloedd ac yn y car.
Ma' gen i hefyd gasgliad effeithiau ac offerynnau Native Instruments, sef Komplete. Mae'n wych ac yn erchyll ar yr un pryd. Mae 'na bob math o sŵn dan haul ynddo fo, ond ers ei gael o dwi 'di gneud dim ond chwarae efo'r nobiau, a fedra' i ddim yn fy myw a gorffen traciau. Damia. Faswn i'n argymell i unrhyw un sy'n recordio Gitâr gael gafael ar Guitar Rig 3, sef un o'r pecynnau medalwedd yn y casgliad. Mae'n anhygoel.
Beth am loop, quantazise, matrix editor, auxiliary a bus??
Mae
Y Termiadur i'w weld yn awgrymu dolen, cwanteiddio, (golygydd) matrics, (bws) ategol, a bws. Mae dolen yn fy nharo i braidd yn rhyfedd yng nghyd-destun sain, ond dyna sydd yno am
feedback loop.