Tudalen 1 o 5

Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 2:51 pm
gan Gai Toms
Oes na rhywun arall yn defnyddio Logic?

Dwi ar Logic Pro 7. Heb uwchraddio i 8 eto. Rhywuan arall wedi? Ydio werth o? Be sy'n wahanol?

Cwestiwn - Pa bryd ddylsa chi normaleiddio (Normalize) lefel sain? Pam? Dwi wedi clywed bod normalize yn tynnu'r enaid o'r recordiad?

** Gawn ni neud hwn yn ludiog plis? *** A dechra un Pro Tools /Cubase beth bynnag.

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 2:52 pm
gan cymro1170
Reason di'r boi medda nhw wrtha fi

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 3:01 pm
gan Gai Toms
OK Agor y drafodaeth i unrhyw feddalwedd / swn / midi / offer
Wedi newid teitl y post.

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 3:06 pm
gan cymro1170
Gai Toms a ddywedodd:Dechra post ar Reason ta....


Dwi'n deallt dim am y diawl yn bersonnol.....

Rho i mi 3D Design, HTML a CSS unrhyw ddydd....

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 3:44 pm
gan Rhys Llwyd
cymro1170 a ddywedodd:Reason di'r boi medda nhw wrtha fi


Reason? Ar gyfer Trance o bosib. Pro Tools neu Logic bob tro ar gyfer cynhyrchu unrhywbeth o werth. Roedd rhen Dyl Mei arfer defnyddio Nuendo (gan cue-base/stenberg) - a'i dyna mae o'n defnyddio o hyd.

Ar y PC slawer dydd roeddw ni'n defnyddio Logic Silver ac ers newid i Mac dwi ddim yn neud cymaint o gyfansoddi bellach felly doedd dim modd cyfiawnhau prynnu Logic Pro felly dwi'n defnyddio Logic Express.

O ran normalizio - dwi jyst yn normalizio'r master reit ar y diwedd a gadael i'r traciau unigol gadw eu henaid fel ti'n ddeud Gai.

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 4:03 pm
gan Gai Toms
dwi jyst yn normalizio'r master reit ar y diwedd


Sut wyt ti'n normalizio'r master yn y cyd-destun yma? Ar ol bownsio? 'Ta cyn bownsio? Ta oes plug-in normalize ar y master?

Dwi just erioed wedi meddwl am normalizio or blaen.

(dwi newydd ddarllen be dwi newydd sgwennu, mae siwr bod pobl sydd ddim yn deall 'iaith' cynhyrchu yn meddwl bo ni'n nyts! ...ar ol bownsio!????... be..ydi cynhyrchwyr cerddoriaeth yn neidio fyny a lawr yn y stiwdio? Hi hi)

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 4:06 pm
gan Mihangel Macintosh
Normeleiddio popeth gyntaf - sdim ots pa rhaglen dwi'n defnyddio.

Wedi defnyddio Logic ar hyd y blynyddoedd a mae gyda'r gorau

Gyda llaw ma Reason yn wych ar gyfer creu curiadau a bass yn enwedig ar gyfer unrhyw arddull o gerddoriaeth electroneg, dim jyst trans!

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 4:11 pm
gan Rhys Llwyd
Gai Toms a ddywedodd:
dwi jyst yn normalizio'r master reit ar y diwedd


Sut wyt ti'n normalizio'r master yn y cyd-destun yma? Ar ol bownsio? 'Ta cyn bownsio? Ta oes plug-in normalize ar y master?


Dwi'n gneud cyn bownsio - os ei di yr holl ffordd draw ar y mixer i'r master slider yn gynta tyn y slider i lawr fel bod y peakio yn ddim byd mwy na melyn - isho osgoi coch wrth reswm - felly os ydy sianeli unigol yn peakio fydda nhw ddim actully yn peakio yn y mix terfynol wedyn oherwydd fod y master chanel ddim yn caniatau hynny. Hefyd, wrth gwrs fedri di slapio cwpwl o plug-ins ar y master channel wedyn, normalizer, compressor.

Siarad am bobl ddim yn deall y jargon - dwi'n cofio slawar dydd rhoi cyfarwyddiadau i Leusa sut oedd gneud rhwbath a'm brawddeg i oedd "Wyt ti wedi unzippio eto Leusa" :ofn:

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 4:53 pm
gan Gai Toms
os ei di yr holl ffordd draw ar y mixer i'r master slider yn gynta tyn y slider i lawr fel bod y peakio yn ddim byd mwy na melyn - isho osgoi coch wrth reswm


O reit, ti jyst yn normaleiddio efo'r fader? Dyna 'dwi neud hefyd ar y funud. Dwi'n son am y weithred 'Normalize' (Sample Editor) i bob track.

Normeleiddio popeth gyntaf


Efo'r sampl editor MM? Mae'n siwr bod normalize yn wych i stwff beats, grwfs a hip hop. (i'w gymharu a stwff acwstic).
Be allai wrando arno i glywed effaith normaleiddio pob track?

unzip and bounce M-Ffyk!

Re: Logic

PostioPostiwyd: Mer 05 Maw 2008 4:57 pm
gan Mihangel Macintosh
Gai Toms a ddywedodd:
Normeleiddio popeth gyntaf


Efo'r sampl editor MM? Mae'n siwr bod normalize yn wych i stwff beats, grwfs a hip hop. (i'w gymharu a stwff acwstic).
Be allai wrando arno i glywed effaith normaleiddio pob track?


Tria Y Meistri fel engraifft da.

Ond fel ti'n gweud, falle ddim y ffordd gorau ar gyfer cerddoriaeth acwstig...