Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Logic

Postiogan Gai Toms » Mer 05 Maw 2008 5:00 pm

reu
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Logic

Postiogan Dyl mei » Iau 06 Maw 2008 6:47 pm

i gid ydi normalize ydi codi lefel y trac ir agosach mae gally mynd i 0 dB cyn iddo peakio, distortio, dwim yn meddwl
sa neud wbath fela yn cymeryd yr enaid o dim byd....be ella fysa ydi gor mastro, codi y level rhy uchel...ond fel udis i,
di hynna ddim yn bosib neud trw normalise.

dwin meddwl chwant personol ydi pryd i normaleiddio, ne os mae angen neud o gwbwl..yr unig cyngor gallai rhoi ydi
trio recordio y signal mor uchel a syn bosib..maer neud gwahanieth os ti am defynddio compressers ect ect....

mae wasdad yn neis Normaleiddio cyn dechra mastro ddo...

o rhan y logic newydd, mae nhw di newid y fordd maen edrych a adio llwyth o features bach yn pob man..dwn im os mae o werth talu am yr upgrade ar y foment....

Nuendo dwi dal i defnyddio, dwin meddwl mae pro tools yn over rated, logic ar y mac, a cubase union rhyn peth anyway...

o rhan Reason, dwin meddwl maen defnyddiol i pob arddyll, ddim just cerddoriaeth electronic!!!

gobeithio dwi di helpy rhywfaint!
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Iau 06 Maw 2008 11:36 pm

Shot DM, dwi wedi trio ngora i gal swn organic ucha posib yn y gorffenol. Na'i arbrofi efo Normalize a gweld be ydi fy chwant personol i amdano.

Cwestiwn 2 - Track Automation (Logic), Newy' sysho allan dy fod ti'n gallu rheoli lefel yr automation gan ddefnyddio fader ar midi keyboard. Amazing i fi, ond ma'n siwr ei fod yn ancient o beth i John Gedru! Unrhyw dips o sut i ehangu ar hyn? Handi mewn mix.

Os da chi ddim ishi rhannu eich fflachlwch recordio, dim probs, ond dwi digon hapus i rannu fy ngwybodaeth i.

http://www.logicprohelp.com am fwy o gymorth, ond ma well siarad efo humans yn fama! .....gan obeithio bod Rooney ddim yn postio ar hwn!
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Dyl mei » Gwe 07 Maw 2008 12:22 pm

mae automation yn eitha hawdd, i gid ti angen ydi midi keyboard eitha modern sydd hefo Knobs a sleidars,
ne os gan y chdi un, Midi Controller, ti gally cael rhai syn gwerthy am unrhywbeth rhwng 200 quid i 5,000..
pa desk gan y chdi? Dwin defnyddio 01V a mae o eitha hawdd i settio fynny y sleidars i controlio popeth.

swn organic? y ffordd classic ydi defnyddio llai o meicraffons, recordio petha fel drums fel un offeryn a ddim
llwyth o percussion gwahanol!...organic hefyd o rhan hen tin feddwl? fel mae o di cael ei recordio ar tap ac yn y blaen?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Gwe 07 Maw 2008 12:38 pm

Na, organic yn ystyr pre-normalize, cal y swn yn iawn yn dechra heb orfod iwsho normalize.

Mixar - Mackie Onyx 1620 / Firewire, ond dio ddim yn darllan automation. Ta ydi o? mmmm.. :? Na..dwi'm yn meddwl. Gin ti midi connection ar y 01V?

Ellai jyst reidio bob yn un track efo sleidar y midi keys, neu gwario ar midi controller!
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Dyl mei » Gwe 07 Maw 2008 2:57 pm

ai, dyna ydi y ffordd gora i neud o fel arfer, dwim yn shwr os mae onyx yn neud automation, dwm yn meddwl
gaddo midi arno na? ond ella mae modd neud rwbath trwr firewire, dwn meddwl mae na upgrade software allan syn
adio un ne ddau o features.....ar y wefan mashwr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Ramirez » Gwe 07 Maw 2008 11:01 pm

Fel ddudodd Dyl, oll ma 'normalizio' yn neud ydi codi lefal y swn i'r ucha fedrith o fod fel y mae o. Hynny ydi, dio ddim yn effeithio ar y swn o gwbl, nac yn ei compressio na'i newid mewn unrhyw ffordd heblaw ei wneud o'n uwch. (H.Y mae o'n codi pwynt uchaf y waveform i 0db - sef yr uchaf bosib o fewn y cyd destun yma -, ac mae gweddill y waveform yn codi i'r un graddfa.)

Fyswn i'n awgrymu peidio normalizio traciau unigol yn syth, achos ti'n colli headroom wedyn, a mi alla unrhyw brosesu ychwanegol arnyn nhw eu gyrru i ddistortio.

Dwi'n meddwl ella bo chdi di cymysgu comression/limiting efo normalizio - ma compressor neu limiter yn gwasgu'r 'peaks' uchaf o'r waveform i lawr er mwyn gallu codi'r gweddill, ac felly yn effeithio'r swn (ac ella yn colli enaid y perfformiad - yn sicfr ma'n chwalu dynamics can os di rhywun yn drwsgwl efo'i gompresor!), tra'r oll ma normalizio'n neud ydi cal waveform chyn uched a phosib heb orfod ei newid, felly dio ddim yn newid y perfformiad na'r deinameg o gwbwl.

Lwc at ut ddus we - ma normalizio rwbath fel gwrando ar UNION yr un peth, ond efo foliwm dy sbicars chydig bach uwch, mwy na heb!

O ran meddalwedd, dwi'n iwsho Ableton Live, Nuendo 3 a Wavelab. Dwi'n meddwl fod Nuendo a Cubase mwy neu lai union r'un peth o ran yr ochor recordio sain, ond bod na fwy o stwff post-production yn Nuendo. Dwi'n iwsho Sonar weithia hefyd, a dwi'n eitha lecio fo, ac mae Reaper am ddim ac yn shit hot, lot yn deud bod o cystal os nad gwell na'r stwff sy'n costio cannoedd.

Dydi petha fel

"Pro Tools neu Logic bob tro ar gyfer cynhyrchu unrhywbeth o werth."

deffinetli ddim yn wir, achos ma'r rhaglenni ma i gyd yn gneud yr un peth yn y pen draw, jysd mewn ffyrdd gwahanol.

O ia, ac o be dwi'n ddallt, tydi Reason ddim yn gallu recordio sain, jysd chwara efo fo.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 08 Maw 2008 12:04 am

Ramirez a ddywedodd:"Pro Tools neu Logic bob tro ar gyfer cynhyrchu unrhywbeth o werth."

deffinetli ddim yn wir, achos ma'r rhaglenni ma i gyd yn gneud yr un peth yn y pen draw, jysd mewn ffyrdd gwahanol.

O ia, ac o be dwi'n ddallt, tydi Reason ddim yn gallu recordio sain, jysd chwara efo fo.


Mewn cymhariaeth gyda Reason o ni'n feddwl am yr union reswm ti'n rhoi 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Sad 08 Maw 2008 9:41 am

Dwi'n meddwl ella bo chdi di cymysgu comression/limiting efo normalizio


O ran ei effaith ma siwr do, ond dwi wedi minglo efo compression a limiters ers oes lentils. Dwi newy' wario chydig ar TL Audio 5060, tiwb compression, fel rhan o fy set yp allanol. Er bod lot o com/lims meddalwedd yn dda iawn dyddia yma, ma hwn yn rhoi rwbath ychwanegol eto. Dwi gallu rhoi mic, line neu offeryn ynddo, mono neu stereo, felly yn handi iawn ar gyfer compresho petha unigol, neu rhoi 'sheen' tiwbaidd i'r final mix (pre-master).

Unrhyw ia's neu na's ar hynny? Twtch bach o compression ar y mics terfynol cyn mastro? Ia? Na? Chwant personol amwn i, ond mae'n dda trafod...

A thra dwi ar y pwnc o fastro, pwy ydi'r meistri o mastro? Dwi wastad yn trio defnyddio Blood Sugar Sex Magic, Chilli Peppers fel template o'r swn dwi'n chwilio amdano, acwstic neu Anweledig, ond byth yn cyrraedd y safon....byth! Er.. dudodd Dewi Glyn unwaith bod ansawdd O'r Sbensh (MTLL) yn Chilli Pepperaidd ei swn, hap! Oes na swn gan fand Cymraeg i ddefnyddio fel template 'swn' i faster da? Acwstig i German Hardcore Death Trash Metal. Rheswn dros Chilli's i fi ydi ei fod o'n groestoriad da o arddulliau, yn punchy mewn tafarn llawn o hedars, ac yn fwyn mewn tafarn distaw (caneuon acwstic).
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Ramirez » Sad 08 Maw 2008 11:31 am

Gai Toms a ddywedodd:
Dwi'n meddwl ella bo chdi di cymysgu comression/limiting efo normalizio


O ran ei effaith ma siwr do, ond dwi wedi minglo efo compression a limiters ers oes lentils.


Ai, dydy nhw ddim yr un broses o gwbwl- doesna ddim 'effaith' normaleiddio o gwbwl. Yr UNIG wahaniaeth rhwng trac wedi ei normaleiddio a un sydd heb ydi' lefal y sain. Dydi o ddim yn ddewis nac yn broses greadigol rili, achos diom yn newid dim heblaw'r lefal. Jysd optimizio bob dim i'r un graddfa mae o'n neud, mewn ffordd.

O ran automation, mi fedri ei neud efo'r ll'godan ar y cyfrifiadur - oll ydio ydi recordio symudiadau'r faders a'r pots a ballu, a ma'n bosib rhoi hynny mewn efo llgodan.

Mae petha fel hwn:

Delwedd

yn gret i neud automation ballu o be dwin ddallt, a ti'n cal rheolaeth dros y transport o fewn y cyfrifiadur a ballu hefyd.

Yn bersonol, dwi ffansi un o rhain:

Delwedd

Rhad fel baw: jysd 8 fader, 8 pot a chydig o fotymau, a ti'n gallu assignio nhw i be leci di o fewn y software.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron