Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Mer 19 Maw 2008 2:45 pm

Gwilym a ddywedodd:Meddylia faint o weithiau mae'r sain yn cael ei gompressio cyn cael ei chwarae ar y radio . . . unwaith ar yr offeryn unigol, unwaith ar y pre-master mix, unwaith wrth fastro ac unwaith eto gan y Bib!


AAARRGGH!

Gwilym a ddywedodd:Does gin i ddim monitors da iawn


Behringer Truth genai, ok am y pris. Ond sgen i'm llawer o ffydd ynddynt efo lefel y bas, mae wastad yn swnio'n wahanol ar y chwaraewr CD wedyn.

Termau Cymraeg? hmmm.....

Reverb - Ogoferb / Stafellwr???
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Mer 19 Maw 2008 2:54 pm

Ramirez a ddywedodd:Beth am automation, sidechain, flange, punch-in, punch-out?


Awtomeiddiwr, Cyfyl-gadwyn! Fflansiwr! Peltan i mewn / allan! Peltia fi mewn / allan, Dwrn???

Beth am loop, quantazise, matrix editor, auxiliary a bus??
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Reufeistr » Mer 19 Maw 2008 2:59 pm

Reverb - Gwlypni Sonig?
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Mer 19 Maw 2008 3:16 pm

Reufeistr a ddywedodd:Reverb - Gwlypni Sonig?


WPH! (Werthin? Piso'n Hunan!) :lol:
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Ramirez » Mer 19 Maw 2008 3:50 pm

Gai Toms a ddywedodd:
Gwilym a ddywedodd:Does gin i ddim monitors da iawn


Behringer Truth genai, ok am y pris. Ond sgen i'm llawer o ffydd ynddynt efo lefel y bas, mae wastad yn swnio'n wahanol ar y chwaraewr CD wedyn.


Alesis M1 520 sgeni, sydd yn hen bethe tshep, ond eto'n oce am y pris. Yn lwcus mi brynodd dad bar o headphones Sennheiser HD650 iddo fo i hun, ac ma heini'n un o'r chydig fodelau sy wir yn 'trustworthy' o ran lefelau bas ac ati, o'i gymharu a hedffons arferol (yn ol Sound on Sound), felly dwin benthyg heini i neud petha "pwysig". Yn anffodus sgeni ddim headphone amp da iawn i'w gyrru nhw.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Dyl mei » Gwe 21 Maw 2008 2:03 pm

alessi monitor 2's dwin defnyddio, a weithio NS-10s......o rhan torri bass cyn mastro, sw ni ddim yn mynd mor bell
a deud 70Htz fel dan tua 50 gei dir Rumble...a mae compressers BBC yn chwalu rhai mixes, dwn im os y ffaith bod
mae sain yn mastro eitha isel i neud da fo?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gwilym » Gwe 21 Maw 2008 4:08 pm

Delwedd

iym!

Mae gin ffrind i mi'r 8030's llai ac mae nhw'n hollol siwpyrb am £400. Mae nhw'n 'active' (gweithredol? . . . cachlyd) ac yn dod hefo cas cario ysgafn. Handi iawn os wyt ti angen mynd i recordio mewn rhywle anghysbell fel hen neuadd neu gapel. Credu fod nhw 'di cael eu gwasgu allan o anthrasite.

O ran 'reverb', ella mai datsain ydi'r gair agosaf, ond dwi yn hoff iawn o gwlypni sain hefyd. Swn i wrth fy modd yn cael deud huna . . . "Chydig bach mwy o wlypni Eryl, dw i ddim cweit yn i dimlo fo eto . . ."
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gruff Goch » Iau 03 Ebr 2008 12:56 pm

Helo 'na bobl - dipyn o sbel ers i mi bostio'n y lle ma ddiwetha'. Braf gweld fod Gêm Fach y Caneuon yn dal i fynd!

Ynglŷn â'r cwestiwn o ba feddalwedd i'w ddefnyddio, dwi'n meddwl y dylet ti gael gafael ar ddemo o'r rhai sy'n apelio atat ti a gweld pa un sy'n dy siwtio di. Mae'r prif stiwdios meddalwedd i gyd i weld yn cynnig yr un math o beth. Dwi'n defnyddio Logic 7 ar hyn o bryd, a wedi gwneud ers fersiwn 4.5 ar y PC. Brynis i Fac G5 er mwyn ei ddefnyddio, ond mae'n well gen i PCs a dweud y gwir. Mae'n anodd curo Logic o ran yr hyn wyt ti'n cael yn y bocs a'i bris (mae o llawer yn rhatach ers i Apple ei brynu). Mae 'na ddetholiad anhygoel o offerynnau ac effeithiau yn dod efo fo, ac yn fwy pwysig mae'u safon nhw'n uchel.

Ramirez a ddywedodd:
Yn bersonol, dwi ffansi un o rhain:

Delwedd

Rhad fel baw: jysd 8 fader, 8 pot a chydig o fotymau, a ti'n gallu assignio nhw i be leci di o fewn y software.


Mae gen i un o'r rhain ac mae o'n wych. Pan wyt ti'n chwarae dy drac mae'r faders (pylwyr?) i gyd yn symud i fyny ac i lawr i gyfateb i lefelau yr awtomeiddio ar dy draciau. Gelli di eu defnyddio i recordio awtomeiddio, neu gafael ynddyn nhw i newid awtomeiddio wyt ti eisoes wedi'i recordio. Mae o'n dod gyda opsiwn wedi'i raglennu'n barod ar gyfer Logic, ac mae'n hawdd ei osod i weithio. Ei anfantais ydi weithiau dydi 8 pylwr ddim yn ddigon, ond gelli di brynu ac ychwanegu mwy ohonyn nhw i greu desg anferth os oes gen ti'r arian a'r lle. Mae modd rhaglennu'r botymau i gyd i gyfateb i unrhyw MIDI CC, felly gelli ddefnyddio'r pylwyr a'r botymau i chwarae samplau os wyt ti eisiau. Mae chwarae piano gyda'r 8 pylwr yn eithaf difyr gan dy fod ti'n newid y traw mymryn wrth eu symud.

Fel monitors sain mae gen i bar o Tannoys Reveal (rhai 'gweithredol'sy'n meddu ar amp mewnol yr un i bweru eu hunain). Maen nhw'n gwneud y tro. Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf ydi trio dy draciau di ar amrywiaeth o seinyddion gwahanol, mewn gwahanol ystafelloedd ac yn y car.

Ma' gen i hefyd gasgliad effeithiau ac offerynnau Native Instruments, sef Komplete. Mae'n wych ac yn erchyll ar yr un pryd. Mae 'na bob math o sŵn dan haul ynddo fo, ond ers ei gael o dwi 'di gneud dim ond chwarae efo'r nobiau, a fedra' i ddim yn fy myw a gorffen traciau. Damia. Faswn i'n argymell i unrhyw un sy'n recordio Gitâr gael gafael ar Guitar Rig 3, sef un o'r pecynnau medalwedd yn y casgliad. Mae'n anhygoel.


Beth am loop, quantazise, matrix editor, auxiliary a bus??


Mae Y Termiadur i'w weld yn awgrymu dolen, cwanteiddio, (golygydd) matrics, (bws) ategol, a bws. Mae dolen yn fy nharo i braidd yn rhyfedd yng nghyd-destun sain, ond dyna sydd yno am feedback loop.
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Ramirez » Gwe 04 Ebr 2008 9:24 pm

Swni wrth fy modd efo un o rhain fel rheolydd os fysa gen i le, ond ma nhw'n discontinued rwan, a dwnim pa mor compatible ydy nhw efo'r stwff diweddara:

Delwedd

hynod cwl, fyd.


Be dachi'n ddefnyddio fel soundcard/interface? E-Mu 1212m s'gen i, efo Behringer ADA8000 yn y ports ADAT, a micsar bach Behringer ar gyfer y ddau I/O analog (ar hyn o bryd, ond am gael gafael ar preamp dau-sianel DAV BG1 yn fuan, a jysd iwsho'r micsar fel monitor controller). Ma hynny'n rhoi 10 input ac output i mi ar hyn o bryd, ond dwi'n gobeithio bachu Aphex 207D (gweler Sound on Sound mis yma) i iwsho'r socet SPDIF ar y soundcard, er mwyn cal 12 input.

Ma'r E-Mu yn gret chos ma na effeithiau go lew ar y cerdyn ei hun, sy'n handi iawn i roi monitoring reverb ne rwbath jysd tra'n recordio heb latency o gwbwl. Ma'r software mixer sydd efo'n gymleth hwnt i ddechra, ond wedi dod i arfer efo fo mae o'n wych o hyblyg.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

Postiogan Gai Toms » Llun 07 Ebr 2008 10:08 am

Wedi clywed gan dderyn bach bod pre amps Tascam braidd yn 'wishy washy'! Ond dwi rioed wedi gweld aderyn yn peiriannu mewn stiwdio o'r blaen!

S.Card / Interface - Mackie Onyx 1620 a Focusrite Saffire LE yn gweithio fel un ar Aggregate Device Apple. Efo'r ddau, gen i 24 mewn a 10 allan, pre amps neis iawn ar y ddau. Mae'r Onyx yn mixar analog efo A/D pre amp ar bob sianel cyn yr EQ, so'n handi ar gyfer ei ddefnyddio fel mixar (stiwido / gigs), ond ddim yn effeithlon os dwi isgo EQ'io popeth cyn eu troi'n ddigidol. Mae o hefyd yn handi os dwi isho recordio seshwn byw, hynny yw, cael mix LR yr Onyx yn berffairth a pwyso record (live recording). Mae LR yr Onyx yn A/D interface hefyd. Weithia dwi'n teimlo fel ei werthu a chael M-Audio Project Mix yn ei le! Wbath tebyg i'r Tascam 'na. Ac anghofio am weithredoedd mixar analog mewn stiwido, mae EQ's a effeithlorwydd Logic yn hen ddigon da. Anaml dwi'n EQ'io cyn troi'n ddigidol.

:?: Rhywun yn defnyddio'r M-Audio Project Mix? Sut pre amps sydd arno?

:?: Oes fordd wych o ddefnyddio mixar analog ynghyd a A/D interface? (Lle mod i'n gwerthu'r Onyx)
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 3 gwestai

cron