Tudalen 3 o 5

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Sad 08 Maw 2008 2:22 pm
gan Dyl mei
dwin meddwl o rhan master, ne mix i copio, sw nin prynny album Love y Beatles..maer ansawdd sain yn anhygoel, o rhan y mix ac y level..popeth amdanon wych, nes i ddwyn y mixes i Album Cowbois rhos botwnnog...dn yn cyfarwydd o album
chillis yna, ond dwin gwbo mae na on line petition yn rhywle i cael Californication di ail mastro oherwydd mae o mor
Ychel!!!

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 12:07 pm
gan Gai Toms
O ran automation, mi fedri ei neud efo'r ll'godan ar y cyfrifiadur - oll ydio ydi recordio symudiadau'r faders a'r pots a ballu, a ma'n bosib rhoi hynny mewn efo llgodan.


No we.. elli? :|

Ai.... ma Behringers yn wych os tisho petha rhad i dy set-yp, ond dim pre's ac EQ a ballu. Gen i mixer bach Berhinger, swn cach braidd. Ydi hwnna'n pre-amp A/D hefyd ta jyst midi control? Pa model dio?

Love, Beatles ia? Ma Californication yn uchel..... Ma 'Mule Variations' Tom Waits yn un da fel template fyd, os am wneud stwff Rootsy Budr.

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 12:49 pm
gan Gai Toms
Pa model dio?


Behringer BCF2000. http://www.dv247.com/search/2976/0/Prod ... ending//1/

mmmm... edrych yn ideal am y pris yndi? Shot Ramirez!

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 12:55 pm
gan Ramirez
Gai Toms a ddywedodd:
Pa model dio?


Behringer BCF2000. http://www.dv247.com/search/2976/0/Prod ... ending//1/

mmmm... edrych yn ideal am y pris yndi? Shot Ramirez!


Ai ma'n gret o deal dwin meddwl. Dim ond rheolydd dio, felly dio'm yn cyffwrdd y swn mewn unrhyw ffordd.

I neud o efo ll'godan, dwin meddwl bod rhan fwya o software yn gweithio 'run ffordd: os ti'n pwyso record ar y rhaglen HEB fod y traciau unigol wedi eu gosod i recordio, mi neith y rhaglen recordio unrhyw symudiadau wyt ti'n neud ar faders a'r pots, ac efo'r plugins a ballu hefyd dwin meddwl. Ond dwi heb ddefnyddio Logic, felly dwnim os dio'n gweithio chydig gwahanol.

Geni mixer bach bach Behringer, a mae o'n gret o problem solver, ond ti'n iawn, swni'm yn defnyddio'r preamps i tracio rhywbeth pwysig fel vocals a ballu os na bo fi'n hollol styc. Wedi deud hynny, ma geni rack o 8 preamp Behringer yn mynd i'r cyfrifiadur efo ADAT a ma heini'n gret i'r petha sydd ddim yn hollol crucial mewn track. Nathoni heirio preamp DAV BG1 neis iawn i neud sengl Cowbois Rhos Botwnnog chydig yn ol, a dwi'n gobeithio bo ni am brynu un o rheini fel y prif preamps.

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 4:22 pm
gan Gai Toms
Ramirez a ddywedodd:O ran automation, mi fedri ei neud efo'r ll'godan ar y cyfrifiadur - oll ydio ydi recordio symudiadau'r faders a'r pots a ballu, a ma'n bosib rhoi hynny mewn efo llgodan.
Gai Toms a ddywedodd:No we.. elli? :|


:| = Sarcasm. '...the lowest form of wit', medda nhw....

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 8:13 pm
gan cymro1170
Gai Toms a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:O ran automation, mi fedri ei neud efo'r ll'godan ar y cyfrifiadur - oll ydio ydi recordio symudiadau'r faders a'r pots a ballu, a ma'n bosib rhoi hynny mewn efo llgodan.
Gai Toms a ddywedodd:No we.. elli? :|


:| = Sarcasm. '...the lowest form of wit', medda nhw....


"wit is the highest form of intelligence".... ;)

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Maw 11 Maw 2008 1:06 pm
gan Ramirez
Gai Toms a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:O ran automation, mi fedri ei neud efo'r ll'godan ar y cyfrifiadur - oll ydio ydi recordio symudiadau'r faders a'r pots a ballu, a ma'n bosib rhoi hynny mewn efo llgodan.
Gai Toms a ddywedodd:No we.. elli? :|


:| = Sarcasm. '...the lowest form of wit', medda nhw....


Godrapia :wps:


Mae na fersiwn gwyn o'r BCF2000 'fyd.

Delwedd

Ffynci.

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Maw 11 Maw 2008 10:09 pm
gan Gai Toms
Gai Toms a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:
O ran automation, mi fedri ei neud efo'r ll'godan ar y cyfrifiadur - oll ydio ydi recordio symudiadau'r faders a'r pots a ballu, a ma'n bosib rhoi hynny mewn efo llgodan.
Gai Toms a ddywedodd:
No we.. elli?

= Sarcasm. '...the lowest form of wit', medda nhw....
Ramirez a ddywedodd:
Godrapia



Sori, oni methu peidio......

BFC2000 Gwyn! :D Ti di mentro eto? Dwi ryw hanner awydd

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 2:13 pm
gan Gwilym
Techno-porn! Meicroffons sy'n codi min arna i.

O ran compression ar y mics cyn mastro, bydda'n ofalus nad oes gynno ti rymblings mawr yn sub-bass (dan 70hz ish) ar dy draciau gwreiddiol, achos fydd dy compressor yn ffricio allan am ddim rheswm amlwg (swn sugno a gwthio). Dw i'n siarad o brofiad fan na. Does gin i ddim monitors da iawn, er dw i ar fin prynu'r Genelc's bach newydd (ddaru Lisa Gwilym chwrae ambell i drac newydd gin i nois wener ac o ni'n crinjo braidd pan oedd compresor y BBC yn cicio fewn mor amlwg. wwwps!). Yn besronol fyswn i'n gadael unrhyw compression cyffredinol tan y mastro ei hun. Mae nhw'n defnyddio multi-compressors eniwe ac er nad ydan nhw'n analogue gan amlaf mae nhw llawer mwy manwl a sensitif na compressor 'single-band'. Dwi'n tueddu i ddefnyddio'r 'track automation' ar logic cyn compresio, gan ddefnyddio'r 'draw' tool i lunio fades esmwyth ar peaks amlwg (ar drac sacsoffon neu lais meddw duda), er dwi'n licio compressio llais wedi ei ganu'n uchel. Yr unig broblem hefo'r trac automation ydi fod rhaid cofio i'w gopio fo os wyt ti'n dechrau newid y trefniant.

Meddylia faint o weithiau mae'r sain yn cael ei gompressio cyn cael ei chwarae ar y radio . . . unwaith ar yr offeryn unigol, unwaith ar y pre-master mix, unwaith wrth fastro ac unwaith eto gan y Bib! Mae'n anodd cadw unrhyw fath o ddeinamig yn fyw os nad ydi'r peiriannydd yn hynod sensitif yn y lle cyntaf.
Dwi'n recno fod yr awydd 'ma i wasgu sain cymaint yn ranol achos fod y foliwm yn mynd yn uwch ac yn uwch ac yn uwch ar y radio o hyd. Mae 'na uffar o whaniaeth rhwng Radio 1 a Radio 3 o ran foliwm cyffredinol. Labeli ac artistiaid isho gwasgu cyn gymaint fewn i'r darllediad a phosib.

Ar bwynt arall, mae 'na gymaint o ieithwedd Saesneg yn ymwneud a thechnoleg cerddoriaeth. Piti nad oes gyno ni eiriau llai trwsgl yn y Gymraeg. Be ffwc ydi fader, peak, wave form, compressor, limiter, gate, reverb yn Gymraeg?

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 2:26 pm
gan Ramirez
Gwilym a ddywedodd:Be ffwc ydi fader, peak, wave form, compressor, limiter, gate, reverb yn Gymraeg?


Pylwr, copa, seindon, cywasgwr, cyfyngwr, adwy, atsain, am laff?

Beth am automation, sidechain, flange, punch-in, punch-out?