Tudalen 5 o 5

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 10:42 am
gan Ramirez
Gai Toms a ddywedodd:Wedi clywed gan dderyn bach bod pre amps Tascam braidd yn 'wishy washy'! Ond dwi rioed wedi gweld aderyn yn peiriannu mewn stiwdio o'r blaen!


Doesna'm preamps ar y 'ddesg' uchod, jysd control surface ydio, fel y Behringer BCF2000, ond ei fod o'n fwy, ac yn edrach fwy fel desg arferol.

Dwi di bod yn meddwl cal micsar iawn hefyd, ond allai'm cyfiawnhau'r peth - run petha ag wti'n son fwy na dim - ma'r meddalwedd yn gneud be dwi isho, felly mi fysa jysd control surface i reoli hwnnw, a monitor controller ar wahan yn gneud mwy o sens na mixer. Ar y llaw arall, os faswni'n gallu fforddio mixer hollol shit hot (h'y tasa gen i £50,000 i wario ar un!) mi faswni'n lecio trackio a mixio drwy un o rheini, a jysd editio mewn meddalwedd. Dwi'm yn gweld hynny'n digwydd i mi byth chwaith!

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 10:51 am
gan Ramirez
*HWN* ydi'r preamp nathoni heirio i neud seng Cowbois Rhos Botwnnog, a dani am byrnu un yn fuan dwi'n gobeithio! Rhad, hyll, a clir fel cloch! Mae mwy ne lai pob dim dwi di ddarllan amdano fo yn ei gymharu fo efo preamps £2000+, a mi oddo'n swnio'n wych pan neshi drio fo - hollol transparent, ddim yn lliwio'r swn o gwbwl bron, jysd dod a swn mawr a clir. £500 am ddau sianel yn fargen anhygoel!

Re: Lingo Stiwido - Meddalwedd / Swn / Midi / Offer ac ati

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 12:13 pm
gan Dyl mei
os dachisho Pre amp anhygoel ac hefo dosh spar, prynwch rhywbeth gan API, ne mae na cwmni yn Lerpwl syn rhenty nhw
allan am ta 40 pynt y diwrnod dwin meddwl...........o rhan cael swn analouge neis, dwi newydd cael gafael ar Plug in di selio
ar Outboard sdiwdi Motown, a rhaid fi ddeud, mae on ffycing amazing. da iawn fi;