Tudalen 1 o 1

Gormodedd o fiwsic! grrr

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 2:56 am
gan 7ennyn
Oes yna unrhywyn sy'n cytuno hefo fi bod yna fwy na digon o blydi cerddoriaeth yn y byd 'ma? Mae o'n ffycin bob man. Does yna ddim posib dianc rhag y blydi peth. mae o ar y blydi radio, ar y blydi teledu, ar y blydi ffon, yn y blydi pybs, yn y blydi siopau, yn y blydi pwll nofio, yn y blydi bys, yn y blydi gwaith. Pob un blydi awr o'r blydi dydd!

Re: Gormodedd o fiwsic! grrr

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 1:18 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Wel, dwi'n sgwennu hyn tra'n gwrando ar ryw don ffon patheitg a di-chwaeth yn mynd ar nerfau pobl mewn llyfrgell.
A ydyw rhywun yn gorfod dioddef ryw shit fel hyn mewn gwledydd fel e.e. Ffrainc, Yr Almaen, Sweden a.y.y.b.
Distawrwydd mewn llyfrgelloedd heb prics yn defnyddio eu ffonau symudol. Mae pethau fel hyn yn joc ym Mhrydain.

Re: Gormodedd o fiwsic! grrr

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 1:42 pm
gan Kez
Bysa hi'n braf cael bach o fiwsig cefndirol ar faes-e wrth bori trwy'r negeseuon :)

Re: Gormodedd o fiwsic! grrr

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 1:57 pm
gan ger4llt
Dwi'n cytuno â miwsic cefndirol, tawel mewn bwytai, siopau a.y.y.b., ond be sy'n y 'ngythruddo i ydi'r ffycars sy'n penderfynnu rolio lawr 'u ffenestri yn 'u ceir a'i flastio, rhoi 'u ffona symudol ar ffwl blast (yn ychwanegol ma'n swnio'n tinny uffernol) neu fwy fyth yn aros i beidio atab 'i ffona i "edmygu"'r cach-fiwsig. Da 'chi'n gwbo'r math o fiwsic dwi'n cyfeirio ato. A swn i'n mwynhau clywad cerddoriaeth glasurol tu allan i siopa bach i drio erlid y bobol ma. :x Clustffona sy'u angan bawb. :winc:

Re: Gormodedd o fiwsic! grrr

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 4:25 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Byddaf yn gwrando ar ambell i drac Cymraeg ar myspace tra'n malu cacen jocled ar y maes. Byddaf yn defnyddio clustffonau- ni fyddaf yn tarfu ar y boi drws nesaf yn y caffi rhyngrwyd neu lyfrgell.
Miwsig cefndir yn e.e. Pret a Manger-diflas. Mymryn o gerddoriaeth clasurol yn Cafe Nero-iawn.
O ia, pobl sy'n blastio miwsig o geir hefo olwynion aloi a ffenestri tinted (be ydi'r cyfieithiad Cymraeg?). Bwm, bwm, bwm...
Miwsig lifft- rhywun yn gweithio mewn adeilad hefo lifft sy'n chwarae crap cefndir?
Cerddoriaeth pan mae rhywun yn ffonio rhyw ganolfan alwadau e.e. banc, nwy, cerdyn credyd...

Re: Gormodedd o fiwsic! grrr

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 7:57 pm
gan Chickenfoot
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Miwsig lifft- rhywun yn gweithio mewn adeilad hefo lifft sy'n chwarae crap cefndir?
Cerddoriaeth pan mae rhywun yn ffonio rhyw ganolfan alwadau e.e. banc, nwy, cerdyn credyd...



Mae cerddoriaeth lifft yn wyrthiol. Dw i isio i Maes-e cynnwys lifft music yn y dyfodol.