CYFARFOD PARTNERIAETH CERDDORIAETH GENEDLAETHOL:
CAMAU CADARN AR GYFER Y DYFODOL
Nos Fercher, Mawrth 26, 7yh – 9yh
Y Cwrt, Sgwar y Parc, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3AD
Dyma gyfarfod sy’n digwydd dwywaith y flwyddyn er mwyn hybu trafodaeth a magu cysylltiadau rhwng gwahanol sectorau o’r diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda’r bwriad o ddatblygu’r sin cerddorol ac i weithredu ar y pwyntiau sy’n cael eu codi yn y cyfarfodydd.
Dyma’ch cyfle i chi gael mewnbwn uniongyrchol i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru – am y tro cyntaf fe fydd y cyfarfod ar agor i unrhywun fynychu.
Fe fydd Gwilym Morus, o’r Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru, sydd newydd gael ei ffurfio yn sgil datblygiadau i daliadau PRS yn mynychu’r cyfarfod i esbonio ychydig am y gynghrair, beth mae’n gobeithio cyflawni ac i sôn am unrhyw ddatblygiadau diweddar am yr ymgyrch gyda PRS.
Mae mynediad i’r cyfarfod am ddim, ond mae angen cofrestru o flaen llaw. Gallwch gofrestru trwy e-bostio ymholiadau@welshmusicfoundation.com neu drwy ffonio 029 20494110