CYNNAL BYWOLIAETH YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH: DIGWYDDIAD GYRFAOEDD YN CYRRAEDD ABERTAWE!
Dydd Mawrth 15 Ebrill 4pm – 6pm, Adeilad y BBC, Heol Alexandra, Abertawe.
Yn dilyn y digwyddiad cyntaf yn yr Atrium, Prifysgol Morgannwg, Caerdydd, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cynnal digwyddiad gyrfaoedd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ar Fawrth 15fed 2008.
Wedi’i anelu at y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth - o dechnegwyr i bobl A+R, cyfansoddwyr i hyrwyddwyr cyngherddau - bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cynnig cyngor gan siaradwyr gwadd sydd yn gweithio yn y busnes cerddoriaeth yng Nghymru, ac fe fydd yna siawns i ofyn cwestiynau.
Fe fydd: sut i lwyddo, syniadau sut i ddechrau, a phrofiadau o weithio o dydd-i-ddydd yn y busnes yn cael eu trafod. Fe fydd yna ddiodydd ar gael ar ôl y sesiwn.
Felly, os oes ganddoch diddordeb dechrau gweithio yn y diwydiant, yr ydych yn dechrau eich busnes eich hun, neu yn ffansio newid yn eich gyrfa, yna mae hyn i chi!
Mae'r digwyddiad am ddim, ond mae yna gyfyngiad ar lefydd. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma, e-bostiwch kieron@welshmusicfoundation.com neu galwch 02920 494 110.