Mae cymdogion The Point, lleoliad cerddoriaeth fyw ym Mae Caerdydd, wedi bod yn cwyno am y swn (pam symud i fyw wrth leoliad cerddoriaeth fyw ) ac mae'r lle dan fygythiad o gau i lawr. Mae'r hen eglwys a adeiladwyd yn 1900 yn leoliad gwych ar gyfer cerddoriaeth fyw yn y brifddinas ers 2003 ac wedi gweld bandiau megis Super Furry Animals, Cerys Matthews, Manic Street Preachers a Funeral For a Friend ac hefyd yn un o brif leoliadau Gwyl Sŵn, lle berfformiodd Beirut felly plis arwyddwch y ddeiseb i'w gadw ar agor.
http://www.keepthepointalive.com