Tudalen 1 o 1

"Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 11:01 pm
gan mabon-gwent
Oes geiriau da unrhywun i'r gân "dw i isio bod yn Sais". Gan Huw Jones rwy'n credu.

Mae'n mynd rhywbeth along the lines of:

Dw i isio bod yn Sais
Dw i isio bod yn Sais
Mae Cymru wedi cael ei dydd
Dw i isio bod yn Sais

Ond rhaid bod mwy o eiriau da fe na'r rheini.

--Wrth gwrs, mae eironi yn y geiriau :winc: --

Re: "Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 10:13 am
gan Lals
Off top fy mhen...

Rwy'n byw mewn pentre bychan
Yn rhywle yn y wlad
Trin y tir oedd gwaith fy nhaid
a siopwr oedd fy nhad
Yn eu ffordd eu hunain
Ro'n nhw'n bobl digion neis
ond dwi am fynd un cam yn well
dw isio bod yn sais

Cytgan: Dw isio bod yn Sais

Fe hoffwn werthu'r pentre
A'i droi yn wersyll haf
er mwyn i bobl Llunden
Gael dweud 'O dyma braf'





methu cofio mwy

rhywbeth fel...
Iaith Shelley a iaith Shakespeare
Mae hon yn well na'r un
Iaith Byron a iaith Benny Hill
Ted heath, alf garnett a'r cwin

rhywle mae e'n dweud...

Mae'r merched yma'n goman
mae'r WI'n mynd lawr
a phawb fel ffwl yn heidio
i ymuno a merched y wawr

Rhyw ddiwrnod caf fy mreuddwyd
Ni fydd yr un iaith ond un
a bydd y Steddfod Genedlaethol
yng ngofal Hughie Green

rhywun arall yn medru llanw'r bylchau? (dw i'n bored iawn yn y gwaith heddiw)

Re: "Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 10:42 pm
gan mabon-gwent
Mae'r geiriau ar JSTOR, os oes caniatad 'da unrhywun, yn anffodus dwi ddim.

Re: "Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 4:42 pm
gan Tegwared ap Seion
mabon-gwent a ddywedodd:Mae'r geiriau ar JSTOR, os oes caniatad 'da unrhywun, yn anffodus dwi ddim.


:D

Dwi isio bod yn Sais (Huw Jones)

'Rwy'n byw mewn pentre bychan yn rhywle yn y wlad
Trin y tir oedd gwaith fy nhaid a siopwr oedd fy nhad
Yn eu ffordd eu hunain roe' nhw'n bobl dogon neis
Ond dwi am fynd un cam yn well, dwi isio bod yn Sais.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
Mae Cymru wedi cael ei dydd,
Dwisho bod yn Sais.

Fe hoffwn werthu'r pentre a'i droi yn wersyll haf,
Er mwyn i bobl Llundain gael dweud 'O dyna braf',
Cael bingo yn y capel a Night Club yn y Llan
Ac yn y bore hela'r llwynog fel Mark a Princess Ann.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
I fynd i mewn i'r Country Club,
Mae'n rhaid cael bod yn Sais.

Mae'r merched yma'n goman, mae'r Dybliw Ai'n mynd lawr
A phawb fel ffŵl yn heidio i ymuno â Merched y Wawr

Un peth sy'n fy ngwylltio, creu helynt am yr iaith
Mae un yn fwy na digon ac yn llawer llai o waith.
Iaith Shelley a Iaith Shakespeare, mae hon yn well na'r un
Iaith Byron a Iaith Benny Hill, Ted Heath, Alf Garnet a'r Cwîn.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
A gyrru'r plant i Boarding School,
Dwisho bod yn Sais.

Mae 'fory'n ddiwrnod pwysig, ac o mi fydd yma le
Mae Syr Godfrey Williams-Wynne yn dod yma i de,

Rhyw ddiwrnod caf fy mreuddwyd ni bydd un iaith ond un
Fe fydd y 'Steddfod Genedlaethol yng ngofal Hughie Green
Anghofir Pwyllgor Bowen, Yr Urdd a Chymru'r Plant
Ac yn lle Dydd Gŵyl Dewi cawn Ddydd Gŵyl Jorji Sant.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
Ac nid y fi 'di'r unig un
sydd eisiau bod yn Sais.

Re: "Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 6:47 pm
gan Lals
O ie, ro'n i wedi anghofio am Sir Godfrey, ond dw i'n meddwl mai Sir Godfrey Herbert Williams-Wynne ydy o i'r peth sganio yn iawn.

Re: "Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 7:15 pm
gan mabon-gwent
:D :D Ffab, diolch yn fawr :D :D

Re: "Dw i isio bod yn Sais" - geiriau?

PostioPostiwyd: Mer 08 Hyd 2008 8:27 am
gan Cymro13
Neu ei fersiwn mwy modern :winc:


Dwi isio bod yn Sais (Huw Jones)

'Rwy'n byw mewn pentre bychan yn rhywle yn y wlad
Trin y tir oedd gwaith fy nhaid a siopwr oedd fy nhad
Yn eu ffordd eu hunain roe' nhw'n bobl dogon neis
Ond dwi am fynd un cam yn well, dwi isio bod yn Sais.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
Mae Cymru wedi cael ei dydd,
Dwisho bod yn Sais.

Fe hoffwn werthu'r pentre a'i droi yn wersyll haf,
Er mwyn i bobl Llundain gael dweud 'O dyna braf',
Cael bingo yn y capel a Night Club yn y Llan
Ac yn y bore hela'r llwynog fel Mark a Princess Ann.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
I fynd i mewn i'r Country Club,
Mae'n rhaid cael bod yn Sais.

Mae'r merched yma'n goman, mae'r Dybliw Ai'n mynd lawr
A phawb fel ffŵl yn heidio i ymuno â Merched y Wawr

Un peth sy'n fy ngwylltio, creu helynt am yr iaith
Mae un yn fwy na digon ac yn llawer llai o waith.
Iaith Shelley a Iaith Shakespeare, mae hon yn well na'r un
Iaith Byron a Iaith Beckham, George Bush, John Prescott a'r Cwin.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
A gyrru'r plant i Boarding School,
Dwisho bod yn Sais.

Mae 'fory'n ddiwrnod pwysig, ac o mi fydd yma le
Mae Syr Godfrey Williams-Wynne yn dod yma i de,

Rhyw ddiwrnod caf fy mreuddwyd yr iaith gaiff fynd i'r diawl
Fe fydd y 'Steddfod Genedlaethol yng ngofal Simon Cowell
Anghofir am y sianel, Yr Urdd a Chymru'r Plant
Ac yn lle Dydd Gŵyl Dewi cawn Ddydd Gŵyl Jorji Sant.

Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
Ac nid y fi 'di'r unig un
sydd eisiau bod yn Sais.