mabon-gwent a ddywedodd:Mae'r geiriau ar JSTOR, os oes caniatad 'da unrhywun, yn anffodus dwi ddim.
Dwi isio bod yn Sais (Huw Jones)
'Rwy'n byw mewn pentre bychan yn rhywle yn y wlad
Trin y tir oedd gwaith fy nhaid a siopwr oedd fy nhad
Yn eu ffordd eu hunain roe' nhw'n bobl dogon neis
Ond dwi am fynd un cam yn well, dwi isio bod yn Sais.
Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
Mae Cymru wedi cael ei dydd,
Dwisho bod yn Sais.
Fe hoffwn werthu'r pentre a'i droi yn wersyll haf,
Er mwyn i bobl Llundain gael dweud 'O dyna braf',
Cael bingo yn y capel a Night Club yn y Llan
Ac yn y bore hela'r llwynog fel Mark a Princess Ann.
Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
I fynd i mewn i'r Country Club,
Mae'n rhaid cael bod yn Sais.
Mae'r merched yma'n goman, mae'r Dybliw Ai'n mynd lawr
A phawb fel ffŵl yn heidio i ymuno â Merched y Wawr
Un peth sy'n fy ngwylltio, creu helynt am yr iaith
Mae un yn fwy na digon ac yn llawer llai o waith.
Iaith Shelley a Iaith Shakespeare, mae hon yn well na'r un
Iaith Byron a Iaith Benny Hill, Ted Heath, Alf Garnet a'r Cwîn.
Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
A gyrru'r plant i Boarding School,
Dwisho bod yn Sais.
Mae 'fory'n ddiwrnod pwysig, ac o mi fydd yma le
Mae Syr Godfrey Williams-Wynne yn dod yma i de,
Rhyw ddiwrnod caf fy mreuddwyd ni bydd un iaith ond un
Fe fydd y 'Steddfod Genedlaethol yng ngofal Hughie Green
Anghofir Pwyllgor Bowen, Yr Urdd a Chymru'r Plant
Ac yn lle Dydd Gŵyl Dewi cawn Ddydd Gŵyl Jorji Sant.
Cytgan:
Dwisho bod yn Sais, O,
Dwisho bod yn Sais
Ac nid y fi 'di'r unig un
sydd eisiau bod yn Sais.