Tudalen 1 o 1

mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 9:14 am
gan CaptainBrugge
Dwi isio dechra sgwennu cerddoriaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur. Mae gen i Macbook (ac ar hyn o bryd meddalwedd GarageBand).

Dwi'm yn gwybod dim byd am sut i fynd o gwmpas hyn.

Yr hyn dwi yn ei wybod ydi fod gynnai gitar electric ac acoustic a bod hi'n bossib i mi brynu Synths/ Drum machine / sampler/ sequencer etc

Oes yna unrhywun efo awgrymiadau lle i ddechra? be dwisio gynta? - drum machine ta sampler ta keyboard etc?

O ran y math o gerddoriaeth, gynnai awydd dipyn o IDM, techno, acoustic.....bob math really

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 10:21 am
gan Gai Toms
Cyn gneud dim, ti angen rywfath o A/D (Audio to Digital) Interface ar gyfer dy stwff acwstic / lleisiol a midi interface ar gyfer dy synths, neu jyst prynu keyboard usb midi. Neu jyst pryna'r cyfan mewn un. Dwi ddim ar macbook, oes A/D Interface syml arno'n barod?? Mic line syml?

Faint ti'sho wario a faint o audio (meics / gitars) inputs ti angen i recordio efo'i gilydd? Cofia, wyt ti mond yn gallu neud lot o betha ar unwaith os ydy dy Mac yn gallu ei handlo. CPU / RAM / Procesing / Cache etc... Dyna pam mae rhan fwyaf o Stiwdio's mawr efo teirw o PC's / Mac's. Os na stwff Techno, Acwstig ti neud, ddylsa ti fod yn ok. Unwaith ti dechra recordio bandiau ac orchestras, mai'n mynd yn ddrud. Midi yn defnyddio llai o CPU na Audio

Ma Focusrite a M-Audio yn neud petha eitha 'rhad' o ansawdd.

Dos i http://www.dv247.com/icat/Sound+Cards/3080/ neu pryna gylchgrawn Sound on Sound.

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 2:49 pm
gan CaptainBrugge
Diolch am hynna.

Dwisho dechra efo stwff electronic felly, y cam cynta ydi cael midi interface. Yna prynu synth/drum machine/beth bynnag, a connectio rhain i'r laptop via'r midi interface? di hynna'n swnio'n iawn?

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 3:52 pm
gan Gai Toms
CaptainBrugge a ddywedodd:cael midi interface. Yna prynu synth/drum machine/beth bynnag, a connectio rhain i'r laptop via'r midi interface?


Ia. Ond....mae llwyth o wahanol ffyrdd i'w neud, dibynnu ar fy fyjet / pwy ti nabod / be tisho etc. Os ydi synths / drum sampls o fewn Garage Band yn dda (dim callach), unig beth ti'sho ydi midi keyboard USB i'w chwara nhw (neu midi keyboard drwy midi interface, fel ti ddeud).
Opsiwn arall - tria gael copi o Reason, ma hwnnw'n raglen dda ar gyfer gosod 'crud' i gan electroneg. Mae'r synnau (dryms / synths / patches) i gyd yn hwnnw. Tydw i ddim yn wizz ar y miwsig elecroneg sa ti well off yn siarad efo rywun yn y maes.

Cofia mai iaith ydi MIDI, nid swn, felly os tisho defnyddio swn synth arbennig (hynny yw - synth / keyboard / drum machine allanol), bydd raid i ti gysylltu fo drw audio beth bynnag, a syncio fo efo G.Band drwy y midi-interface. Darllan fyny be ydi gwahaniaeth rhwng Synth a Keyboard!

Mae wastad syniad da prynu Audio / Digital Interface a Midi ynddo. Tria gael un efo digon o audio inputs ac outputs. Mae'n rhoi mwy o opsiynau i ti yn y pen draw.

Sbia ar hwn - http://www.dv247.com/invt/29998/ , wbath felma ti'sho i gychwyn. Mae na XLR a jack inputs i meicroffon a 4 mewn a 4 allan a Midi. Ideal i gychwyn neud llwyth o stwff.

Pob hwyl!

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 11:07 pm
gan Dr Strangelove
http://www.m-audio.com/products/en_us/FastTrackPro.html

meddwl prynu un o rhein. any good? hmm?

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 3:01 pm
gan Ar Mada
Dr Strangelove a ddywedodd:any good?


Dim syniad, mae'n edrych yn ok.

Oes gen ti fire wire? Mae hwn yn well os oes gen ti.

http://www.dolphinmusic.co.uk/product/5 ... ffire.html

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 3:18 pm
gan Ramirez
Strangelove, mi oedd geni'r fersiwn symlacvh o'r Fastrack am sbel. Mi oedd o'n gneud ei job yn gret - drivers solid, a dim problemau.

4 input neith o gymryd ar y mwya, felly dydi ddiawl o otsh os dio'n USB neu Firewire felly. Ac eniwe, mae 'rhan fwya dyddia yma yn USB 2.0, a tydi Firewire ddim gwell.

Dwi'm yn meddwl gei di broblem efo'r Fastrack Pro os di'r spec yn dy siwtio - mae M-Audio yn gwmni digon solid.

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 3:42 pm
gan Ar Mada
Dim yn siwr os oes dadl USB vs Firewire yn codi fama, ond jyst deud nes i bod y Focusrite Saffire yn well beth os oes gen ti firewire oni. Mae lot o son mai pre-amps Focusrite yw'r gora wrth feddwl am byjet gajets. Audio lly....

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 11:20 pm
gan Dr Strangelove
Ar Mada a ddywedodd:
Dr Strangelove a ddywedodd:any good?


Oes gen ti fire wire? Mae hwn yn well os oes gen ti.

http://www.dolphinmusic.co.uk/product/5 ... ffire.html


oes mae gennai firewire ond dim digon o cash yn anffodus. :(

Re: mynd ati efo'r macbook i greu miwsic?

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 11:24 pm
gan Dr Strangelove
Ramirez a ddywedodd:Strangelove, mi oedd geni'r fersiwn symlacvh o'r Fastrack am sbel. Mi oedd o'n gneud ei job yn gret - drivers solid, a dim problemau.

4 input neith o gymryd ar y mwya, felly dydi ddiawl o otsh os dio'n USB neu Firewire felly. Ac eniwe, mae 'rhan fwya dyddia yma yn USB 2.0, a tydi Firewire ddim gwell.

Dwi'm yn meddwl gei di broblem efo'r Fastrack Pro os di'r spec yn dy siwtio - mae M-Audio yn gwmni digon solid.


diolch ramirez, ma gennai un o midi controllers m-audio (25) a ma hwnnw'n brilliant, so o'n i'n meddwl fydde'r fastrack yr un mor dda.