CaptainBrugge a ddywedodd:cael midi interface. Yna prynu synth/drum machine/beth bynnag, a connectio rhain i'r laptop via'r midi interface?
Ia. Ond....mae llwyth o wahanol ffyrdd i'w neud, dibynnu ar fy fyjet / pwy ti nabod / be tisho etc. Os ydi synths / drum sampls o fewn Garage Band yn dda (dim callach), unig beth ti'sho ydi midi keyboard USB i'w chwara nhw (neu midi keyboard drwy midi interface, fel ti ddeud).
Opsiwn arall - tria gael copi o Reason, ma hwnnw'n raglen dda ar gyfer gosod 'crud' i gan electroneg. Mae'r synnau (dryms / synths / patches) i gyd yn hwnnw. Tydw i ddim yn wizz ar y miwsig elecroneg sa ti well off yn siarad efo rywun yn y maes.
Cofia mai iaith ydi MIDI, nid swn, felly os tisho defnyddio swn synth arbennig (hynny yw - synth / keyboard / drum machine allanol), bydd raid i ti gysylltu fo drw audio beth bynnag, a syncio fo efo G.Band drwy y midi-interface. Darllan fyny be ydi gwahaniaeth rhwng Synth a Keyboard!
Mae wastad syniad da prynu Audio / Digital Interface a Midi ynddo. Tria gael un efo digon o audio inputs ac outputs. Mae'n rhoi mwy o opsiynau i ti yn y pen draw.
Sbia ar hwn -
http://www.dv247.com/invt/29998/ , wbath felma ti'sho i gychwyn. Mae na XLR a jack inputs i meicroffon a 4 mewn a 4 allan a Midi. Ideal i gychwyn neud llwyth o stwff.
Pob hwyl!