Cyfansoddi

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfansoddi

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 30 Ebr 2008 1:02 pm

Sut dach chi'n mynd ati i gyfansoddi?

Gorwedd ar garreg oer mewn ogof drwy'r dydd?

Ffeindio grwf a'i ddilyn o?

Mynd i ben mynydd? Meddwi?

Stond?

Geiriau yn gynta ta miwsig?

Be sy'n dod gynta tiwns ta cordiau?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyfansoddi

Postiogan Captain Pie » Iau 01 Mai 2008 5:28 pm

Bob dim yn dod allan yn spontaious. Tebyg iawn i chwydu.
Awe!
Rhithffurf defnyddiwr
Captain Pie
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 302
Ymunwyd: Sad 11 Meh 2005 5:54 pm
Lleoliad: Mewn cadair o flaen y cyfrifiadur

Re: Cyfansoddi

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 02 Mai 2008 9:48 am

dyna'r ffordd orau mae'n debyg. Ella bod hi'n well peidio meddwl gormod am y peth cos ti'n gallu ei cholli hi o ddadansoddi gormod o bosib
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyfansoddi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 02 Mai 2008 10:18 pm

Weithiau dych chi'n clywed alaw ac yn meddwl, "Beth am osod geiriau iddi?". Weithiau dych chi'n gwybod cerdd ac yn meddwl, "Beth am osod alaw iddi?". Weithiau 'does gennych ond ryw syniad vague, e.e. "Swn i'n hoffi cyfansoddi can am ...". Heb ddim o'r pethau yma, 'does dim siawns am gyfansoddi. Peth cyntaf, y syniad, ysbrydoliaeth. Na, dydy hynny ddim yn dod allan o botel (neu reefer...) - dyn ni ddim yn siarad "gwirodyddaeth" yma neu'n meddwl am fynd yn feddw gaib.

Iawn, wedi cael y syniad, ymaith a chi i'r Royal College of Music am sawl blwyddyn...efallai na, ond does na ddim lot o bwynt mewn cyfansoddi os dych chi ddim yn medru cyfathrebu be dych chi wedi cyfansoddi a neb ond oes?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cyfansoddi

Postiogan tangram » Sad 03 Mai 2008 1:30 pm

Hi Gorwel

Ydych chi eisiau cyfansoddi 'ch hun, neu jyst yn gofyn? Ydych chi'n canu offeryn o gwbl? Mae'n haws dechrau gyda rhwybeth dych chi'n gwbod - jyst chwarae o'i gwmpas a weld beth sy'n dod 'mas.

Tiwns ta cordiau - mae'n dybynnu beth dych chi'n ysgryfenni! ee os dych chi'n chwarae 12bar blues, mae'r cordiau'n dod cyntaf ac mae'r diwn yn dod cynaf os dych chi'n wneud gan.

S'dim point yn meddwi - mae eisiau ben glir enwedig os dych chi'n ysgryfenni bethau i lawr - proses mathemategol yw e.

Mynd i ben mynydd? Dim siawns! Wel, mae'n haws o lawer eistedd ar ddesg gyda cacen siocled!!

Reit, wel, fi off i wneud bedwarawd fach :)
tangram
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 9:29 pm

Re: Cyfansoddi

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 07 Mai 2008 2:44 pm

jyst wyndro sut byddai rhywun arall yn mynd ati

oes gennych chi riffs bach ga' i ddwyn?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyfansoddi

Postiogan denzil dexter » Gwe 09 Mai 2008 3:09 pm

Mae rhan fwyaf o caneuon dwi di gyfansoddi wedi dod jest wrth gychwyn hymian rhyw diwn yn y mhen wrth wneud ryw dasg bob dydd fel bod allan efo'r defed, neu allan ar y cwrw ar nos sadwrn! Wedyn mynd at y piano neu gitar a gweithio cords o gwmpas y tiwns, wedyn fel arfer mae'r geiriau'n dod yn reit hawdd. Dwi'n ffeindio bod 'fforsio'ch hun i gyfansoddi ryw diwn ddim yn gweithio gystel - dech chi'n mynd i deimlo'n rhwystredig ac yn trio gormod i wneud y gan 'berffaith', a dwi'n ffendio bod cyfansoddi can jest rownd cords penodol yn cyfyngu can, ac yn gallu gwneud can yn 'cliched'
Rhithffurf defnyddiwr
denzil dexter
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 537
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 9:17 am
Lleoliad: Os na dwi'n fan hyn - dwi rhwle'n agos!

Re: Cyfansoddi

Postiogan Gai Toms » Sul 25 Mai 2008 2:56 pm

Rheol 1 - Does dim rheola...

Efo geiriau, dwi'n dueddol o greu rheolau a patrymau fy hun gan ddiolch i'r traddodiad barddol am y dylanwad. Hynny yw - heb y gynghanedd a chyflythrenu fuaswn i ddim yn meddwl fel ydwi. Dwi methu cynghaneddu felly'n chwarae efo geiriau a synnau. Bardd diog? Wti gorfod cynghaneddu i fod yn fardd? Mae gen i lyfr gan Myrddin ap Dafydd i ddysgu, er ei fod mor glir a chloch yn egluro, dio dal ddim yn sincio mewn efo fi! Cymyd amser yndi....

I mi, mae'n bwysig bod y gerddoriaeth yn gweddu i deimlad y geiriau hefyd ( a vice versa), tydw i ddim yn llwyddo bob tro ac felly'n datblygu caneuon rhyfedd / gwahanol weithia, sydd yn dda amwn i??

Dwi'n hoff o greu caneuon dychmygol (fiction) hefyd, a jyst gadael i un linell / gair gychwyn y gan a bod y gweddill yn dod o hwnnw. Ac ar y diwedd mae gen ti gan sy'n neud rywfath o sens. ee Arwain i'r Mor (MTLl Straeon y Cymdogion) Roedd y geiriau "Ti dal i ofyn ble mae'r afon yn mynd," yn fy mhen ers canrifoedd, un dydd nes i sgwennu fo ar bapur ac ychwanegu "Ista mewn cwrwgl a'i adael o fynd efo'r lli - a disgyrchiant" oni ddim isho defnyddio 'fynd' i odli efo 'mynd' felly defnyddiais o fel odl mewnol. Yn aml dwi'n defnyddio patrwn y bennill gyntaf fel template i'r gweddill gan ychwanegu cytgan / m8 i dorri'r patrwn fyny chydig. Yn y diwedd oedd gen i gan yn portreadu bywyd fel taith afon i'r mor (+pethau eraill personol) a seiliodd delwedd i glawr yr albym.

I ran fwyaf o nghaneuon mae'r gerddoriaeth jyst yn complimentio'r geiriau a mae gen i lwyth o riffs a cord structures mewn stock i hynny.

Felma dwi'n gweithio, tydi hynny ddim yn deud mod i ddim yn hoff o can di batrwn chwaith, mae'r opsiynau yn ddi-ddiwedd.

Rheol 2 - Does dim rheolau...
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron