Hedfan (Eisteddfod yr Urdd)

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hedfan (Eisteddfod yr Urdd)

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 26 Mai 2008 1:58 am

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd rhan yn y sioe gerdd Hedfan - Sioe Gerdd Ysgolion Uwchradd Eisteddfod yr Urdd eleni. Rwyf wedi gweld nifer o sioeau eisteddfodol yn fy nydd, yn sicr roedd hon ymysg y goreuon.

Roedd Tomos Wyn, Dwysan Lowri, Elgan Llŷr Thomas a Rhys Ruggiero yn sefyll allan fel sêr y bydd Cymru yn sicr, a'r byd tu hwnt o bosib, yn dod i glywed llawer mwy amdanynt yn y dyfodol.

Roedd llawer mwy o dalent yn cael ei arddangos yn y sioe unigol hon nac a ddangoswyd yn y cyfan o sioeau Prydeinllyd Mr Cowell!!!

Roedd fy meibion, Rhodri a Deiniol, hefyd yn rhan o'r sioe ac yn gwneud fi mor browd o fod yn dad iddynt. Da iawn hogiau - a phawb arall oedd yn gysylltiedig â'r sioe - am noson wych o ddawn ac adloniant.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Hedfan (Eisteddfod yr Urdd)

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 26 Mai 2008 2:20 pm

'Dwi di meddwl erioed bod hi'n siomedig nad yw'r sioeau 'ma'n cael eu darlledu. (a dim yn unig achos bo fi isho fy 10 eiliad o enwogrwydd!) :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai