Tudalen 1 o 1

Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 3:58 pm
gan Mici
Su mai dwi di prynnu chwaraewr mp3 newydd a isio ei lenwi fo efo cyn gymaint a ganeuon a sydd bosib ar ol diweddariad anffodus yr ipod shuffle ym mocad fy nghot yn y peiriant golchi wsos diweddaf.

Mae gennai tua 500 o ganeuon oddi ar fy cd's o adra ond yn anffodus ddim o'r gwereiddiol oherwydd copis ydy nhw er mwyn gwneud yn haws i gario nhw drosodd. Llond peiriant o trac rhif 1 a ballu ar hyn o bryd, job rhyw pnawn dydd sul enwi nhw i gyd!!

Unrhyw wefannau talu neu ddim talu saff lle gellid lawrlwytho caneuon heb gael rhen firws ar eich cyfrifiadur, cofio 'kazaa' ersdalwm yn chwalu cyfrifiadur acw. Ar hyn o bryd sgennai ddim diogelwch gan fod rhaglen avg wedi dod i ben(pres yn dynn ar hyn o bryd!!)

Unrhyw wefannau lle mae bandiau Cymraeg yn gadael i chi lawrlwytho traciau?

creative zen v plus sgennai os di hynna unrhyw help

Thenciw

Re: Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 5:18 pm
gan Chickenfoot
Cofia talu am y caneuon: piracy is killing music! Jest fel nath "home taping" yn yr 80au!

Re: Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 5:55 pm
gan Mwnci Banana Brown
iTunes- os ti'n lawrlwytho caneuon am ddim o file-sharing sites, tin haeddu cal viruses!

Re: Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 7:23 pm
gan Raoul
Ma http://www.worryaboutyou.com yn eidial o wefan. Teipio fewn enw'r gan neu'r artist yn y bar ar y top, right-clic/"save target as" ar y fflopi disg bach wrth ymyl y gan et voila, miwsic am ddim. Mae o mymryn bach yn anghyfreithlon mashwr de. Rysians sy'n i redag o, a ma'n cael ei gau lawr bob hyn a hyn, ond i ymddangos eto ar ol 'chydig o ddyddia'.

Dwi heb ddod ardraws unrhyw virus eto.

Re: Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 10:56 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi rioed di cael trafferth efo Limewire wrth islwytho cerddoriaeth er dwi ddim yn meddwl ddoi di ar draws llawer o stwff Cymraeg yna. Dwi wedi cael ambell i doji ffeil wrth islwytho meddalwedd o Limewire ond digwydd bod .exe files oedde nhw a dwi ar Afal felly ro ni'n saff, phewww...

Un tip i gael MP3's am ddim - mae modd i ripio MP3's off MySpace hyd yn oed os nad ydy'r band wedi dewis rhoi'r opsiwn i ddefnyddwyd islwytho. Dwi'n defnyddio Safari ar yr Afal ac mae mor hawdd a mynd 'Windows'>'Activities' ffeindio'r ffeil a rhoi clec arno. Mae rhywbeth tebyg ar Firefox sydd ar Windows yn ogystal a'r Afal... ac wrth gwrs mae llawer o fandiau Cymraeg ar MySpace... dwi ddim yn annog dim byd... dim ond yn theoreiddio am yr hyn fyddai o bosib yn gweithio... ahem...

Anfantais ripio MP3's off MySpace wrth gwrs yw fod safon y ffeiliau bellow par.

Re: Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sul 06 Gor 2008 2:04 pm
gan Mwnci Banana Brown
Rhys Llwyd a ddywedodd:Un tip i gael MP3's am ddim - mae modd i ripio MP3's off MySpace hyd yn oed os nad ydy'r band wedi dewis rhoi'r opsiwn i ddefnyddwyd islwytho. Dwi'n defnyddio Safari ar yr Afal ac mae mor hawdd a mynd 'Windows'>'Activities' ffeindio'r ffeil a rhoi clec arno.


Os ma'r band di dewis peido rhoi'r opsiwn i lawrlwytho, pwy sy'n rhoi'r hawl i ti jyst mynd a neud na eniwei? Dwi'n siwr bydd lle ma os wy ti'n clywed am rhywun sy di mynd a copio gwaith dylunio wy ti wedi neud.

Re: Llawrlwytho cerddoriaeth yn saff

PostioPostiwyd: Sul 06 Gor 2008 4:09 pm
gan Rhys Llwyd
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Un tip i gael MP3's am ddim - mae modd i ripio MP3's off MySpace hyd yn oed os nad ydy'r band wedi dewis rhoi'r opsiwn i ddefnyddwyd islwytho. Dwi'n defnyddio Safari ar yr Afal ac mae mor hawdd a mynd 'Windows'>'Activities' ffeindio'r ffeil a rhoi clec arno.


Os ma'r band di dewis peido rhoi'r opsiwn i lawrlwytho, pwy sy'n rhoi'r hawl i ti jyst mynd a neud na eniwei? Dwi'n siwr bydd lle ma os wy ti'n clywed am rhywun sy di mynd a copio gwaith dylunio wy ti wedi neud.


Hol your horses, nesi rioed dweud fod hawl naddo fe jest pwyntio allan fod modd yn dechnegol. Fel maen digwydd dim ond unwaith dwi wedi gwneud hyn fy hun a hynny i fand oedd heb ryddhau dim a heb eu cynnyrch ar iTunes felly no loss of sales. Ond rwy' wrth gwrs yn derbyn dy bwynt ti - dyw e ddim yn gercus i dynnu traciau am ddim off y we, yn enwedig gan fandiau bach Cymraeg os oes modd prynnu'r CD yn y siop leol. Fe wnes i bwyntio mas nad oedd yr MP3 gew chi off MySpace yn dod yn agos i safon CD beth bynnag.

Cymhariaeth am gopio gwaith dylunio ddim cweit yr un peth, maen naturiol i artistiaid gopio ac efelychu gweithiau eu gilydd. Wi'n cael fy syniadau a fy ysbrydoliaeth i o edrych a gwerthfawrogi gweithiau dylunwyr eraill ac basw ni'n falch pe tae dylunwyr eraill yn cael ysbrydoliaeth i neud stwff ar ol gweld fy stwff i. A beth bynnag, dwi'n cael rhan fwyaf o fy base images o iStock Photo neu Getty Images beth bynnag (fel y trwch helaeth o ddylunwyr ag eithrio'r rhai sy'n ffotograffwyr neu artistiaid free hand eu hunain) felly nid fi byddai'n colli busnes ond iStock a Getty maen ddigon tebyg!!! Mae sampl o fy ngwaith dylunio i ar fy ngwefan ac mae modd islwytho'r graffeg os ydych chi ishe ond wedyn pa iws fydde poster gig dawns ryng-gol i unrhyw un heblaw am drefnwyr y ryng-gol?!