All rhywun egluro i mi be sy'n digwydd efo'r sain pan mae cwmni teledu'n darlledu gig byw?
Ydio'n confyrtio analog i ddigidol?
Rheswm dwi'n gofyn ydi - sain Sesiwn Fawr ar y teledu, bob blwyddyn: mae o mor crap ar y teledu, a mor wahanol i be ti'n glywed yn fyw pan ti yno.
Cymharer hynny efo sain y BBC o Glastonbury bob blwyddyn - top notch bob blwyddyn.
Wrth wylio Sesiwn Fawr neithiwr (nos wener) roedd y sain yn uffernol, ond yr engraifft waetha oedd set Chiz. Aeth mewn i'w gan gynta, a dim jesd ei ganu fo oedd allan o diwn, ond ei keyboard o! Roedd fel petai unai fo, neu gweddill y band, yn chwarae yn y key anghywir.
Ar ôl iddo chwarae'r gan - yn broffesiynol iawn dan yr amgylchiadau (achos roedd wedi dechrau sylwi drwy'r moniotrs) - galwodd y boi PA (desg ar y llwyfan) draw, a chwaraeodd ambell nodyn iddo, ac aeth hwnnw'n ôl at y ddesg a ffidlan efo'r nobs i gael y swn yn well. Dwi rioed di clywad am offer cymysgu sy'n amharu ar dôn offerynnau o'r blaen, felly gwnaeth hynny imi feddwl os oedd rwbath ar y ddesg oedd yn confyrtio signal er mwyn darlledu, a bod hwnnw yn cywasgu(?) sain ac yn effeithio ton yr offerynnau - a'r llais (gwneud nhw allan o diwn).
Achos aeth Chiz ymlaen i neud set, a canodd allan o diwn drwyddi. Fel wnaeth o llynedd/flwyddyn cynt. Er, adeg hynny roedd o'n swnio allan o diwn i'r gynulleidfa hefyd.
Ai'r sain sy'n cael ei ddarlledu sy'n cael ei fwydo'n ôl drwy'r monitors? Neu ai cymysgedd o sain digidol ac anaolg? (Maddeuwch fy nhwpdra technolegol gyda llaw)
Dwi di ca'l profiad tebyg fy hun, efo Estynedig. Swn yn iawn yn y lle, a swnio'n cwl drwy'r monitors, ond yn ddiawledig ar y teledu, a fy llais yn crinjlyd o allan o diwn.
Ond os dio'n digwydd i broffesiynal fel Huw Chiswell, mae na rwbath yn gorfod bod yn rong yndoes?
Edrith rywun egluro?